yn y gaeaf efo'i lantern a'i ffon. Hen greadures dal, het jim cro, sannau bach, glandeg iawn yr olwg arni,—pendefiges natur. Un o hen deulu Beddgelert ydoedd: chwaer i Pyrs Ifan y crydd. Lowri Parry, wedyn, gwraig y tŷ capel, wrth ei baglau, er yn ddynes hynod o gref. Yr oedd ei Hamen yn cynhesu eich calon. Hyddysg iawn yn Gurnal. Hen wniadrag ydoedd, a daeth Elin William ati i ddysgu gwnio. Dechreuodd Elin William gadw'r tŷ capel ar ei hol yn 18 oed. Hwy ddeuent fel colomenod i'w ffenestri,— Nansi Ifan, Alis William, Marged Roberts Ty'nllan; Doli Owen a Neli Robert a Nans William Tŷ gwyn; Marged Prichard, mam William Prichard Tŷ gwyn, gwraig gyson ; Sian William y Perthi, mam Daniel Williams blaenor, Porthmadoc, gwir dda, gwastad iawn, haelionnus, gweithgar gyda chrefydd; Als Griffith, a Marged Davies, mam Hywel Davies, yn hel yr addewidion ar wely angeu. Gofynnwn iddi, wrth ei gweled yn lledu ei breichiau allan, 'Be' ydych yn wneud?' 'Hel yr addewidion, wel di,' meddai hithau." Catrin Jones, gwraig gyntaf John Jones, yn grefyddol anghyffredin er yn ifanc. Gorfoleddai Richard Roberts Cae'rgors yn adeg ei chladdu. Pan wrthi yn ei phriddo, "Waeth i chwi un mymryn heb," meddai yntau; "bydd oddiyna ar ei hunion!"
Heblaw a goffheir gan Mr. Pyrs Roberts, ceir coffa yn y Drysorfa (1869, t. 315) am Robert Morus, a fu farw Mawrth 6, 1867, yn 73 oed, yn wr parchus, haelionnus, cyson yn y moddion, cyson ei fuchedd. Hefyd am Elizabeth Roberts, merch Hafod Lwyfog, gwraig John Roberts y blaenor, a fu farw Mai 10, 1887. Daeth at grefydd yn niwygiad 1840, ym Methania, a hithau yn 26 oed. Yn arfer cynildeb er mwyn bod yn elusengar. Ni adawai i ddim ei lluddias oddiwrth weddi ddirgel ar adeg benodol. Yn ffyddlon yn gyhoeddus. Yn meddu ar grefydd gyflawn; yn mwynhau cysuron yr Efengyl yn helaeth. Yn ystod y ddau ddiwrnod diweddaf o'i chystudd, yn arbennig, cawsai ddadleniadau neilltuol ar ogoniant Crist, a thorrai allan, megys pe gwelsai eraill y cyffelyb, Gogoneddus iawn, onite ?" (Drysorfa, 1887, t. 435).
Y mae Mr. D. Pritchard yn son am rai o hen athrawon y pentref. Rhowd ei gyfeiriad at Hywel Gruffydd yn yr Arweiniad, a chafwyd cyfeiriad ganddo at Richard Roberts Cae'rgors. Pyrs Ifan oedd athro'r A B C. Yn y naill gongl o'r sêt fawr yr oedd Pyrs Ifan yn gofalu am yr eginyn, ac yn y gongl arall ceid y dywysen