fod y daith hyd 1822 fel yma: Tylyrni, Hafod y llan, pentref. Ond erbyn 1822, Tylymi, Bethania, pentref. Wedi cael capel, yr oedd Bethania, Peniel a'r pentref yn daith hyd tuag 1855, a Bethania a Pheniel o hynny hyd 1877. Y tri swyddog cyntaf yma ydoedd, Rhys Williams, William Williams a Griffith Jones Hafodydd brithion, y tri yn ffermwyr cyfrifol. Griffith Jones oedd y swyddog cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys ei hun. Yr oedd ei gartref yn hynod anghysbell, ond cerddodd lawer i'r moddion i Feddgelert, Hafod llan a Hafod rhisgl. Bernir ei fod yn wr rhagorol. Gorfoleddwr mawr yn amser y diwygiad. Câr i John Jones Talysarn. Bu farw Hydref 18, 1837. Nid oedd mwyafrif yr aelodau ond cyffredin eu hamgylchiadau, fel nad oedd y derbyn- iadau yn dod i fyny a'r taliadau. Yn 1826 y mae'r derbyniadau yn llai na'r taliadau o £6 4s. 0½c., ac yn 1827 o £8 6s. 8½c.
Mesur y capel ydoedd 9 llath wrth 7. Gwnawd tŷ capel ac ystabl. Wele yma y "cyfrif o gostau adeiladu capel Bethania yn y flwyddyn 1822," fel y mae yn aros yn llawysgrifen dwt Rhys William. "Am dorri dae'r, gwneud cwterydd a chloddiau, a chlirio o'i gwmpas, £6 7s. 2g. Codi'r cerrig a'u tynnu at y gwaith, £13 5s. 2g. Gwaith maen, 398 llath, am 1s. y llath, £19 18s. Gwaith wrth y dydd, £1 17s. 9g.; rhodd, 5s.=£2 2s. 9c. 471 troed. o goed, viz. 404¾ am 22d., 21 feet am 23d., 45¾ feet am 2s., £43 14s. [43 13s. 9½c.] Am 5 dwsin o bolion a'u cario, £1 14s. Am gario 471½ feet o goed am 4d. y droedfedd, £7 17s. 2g.; cario ais ac amryw bethau eraill, 11s. 10c.=£8 9s. Am 82 hobet o galch, 13c. a 41 pecaid am 17c., £2 18s. [£2 18s. 1g.]=£7 6s. 10c. [£7 6s. 11c.]. Am gario'r calch, £3 7s.; Am flew, £1 4s.; ei gario, 4s.=£1 8s. Am 8700 slates, £8 12s.; cario rhai at y ffordd, 2s. 6ch.=£8 14. 6ch. Am 10 bwndel o ais, £1 16s. 3c. Am doi 178 llath am 5½c. y llath, £4 1s. 7c.; gosod cerrig tablau, 3s.=£4 4s. 7c. Plastro, £4 17s. Teils crib, £1 10s.; eu cario, 4s. 6ch.=£1 14s. 6ch. Gwaith coed a'r llifio, £28 12s. 2g. Paint, oil a brwsh, 12s. 7½c. Hoelion a chyrt, £5 16s. 8g. Gwaith y gof, £1 10s. 6ch. Am ddau rate a'u gosod, 17s. Am amryw bethau yn shop Richard Williams, £6 3s. 9c., am bowlins ffenestri, 2s. 6ch.46 6s. 3c. Gwydro, 77 troed., 8. mod., 10 rhan, am 1s. 6ch. y droedfedd, £5 16s. 9c. Gwneud ystabl, £10. Cost y turnpikes, £1 1s. 51c. Release y capel, £2 6s. 2 bapur stamp i wneud biliau, 6s. 8g. [Cyfanswm] £192 4s. 10c. Telais am goed bedw, £1 5s. Am Release, £5 5s. [Cyfanswm]