£198 14s. 10c. Benthyciwyd gan Robert Jones, £160. Casglwyd £36 4s. Y derbyniadau, £196 4s. Y taliadau, £192 4s. 10c. Gweddill yn llaw, £3 19s. 2g." Y mae nodiad pellach wedi ei amseru, Mehefin 11, 1827: "Swm yr arian dderbyniwyd at adeiladu capel Bethania y flwyddyn 1822. Derbyniwyd gan ewyllyswyr da, £36 10s. Benthyciwyd gan Robert Jones Bwlchbach, £160. Benthyciwyd gan William Ellis Beddgelert £10. [Cyfanswm] £206 10s. Y costau aeth i adeiladu fel y maent i'w gweled yr ochr arall, £198 14s. 10c. Y gweddill yn llaw, £7 15s. 2g. Rhagfyr, 1828, Talwyd am baentio'r capel, £5 10s."
Diau i lawer o'r gwaith gael ei wneud yn rhad. Y mae rhestr y cyfranwyr o £36 10s. wedi ei hamseru, Mawrth 23, 1822. Ceir ynddi chwecheiniog yr eneth forwyn a theirpunt y meistr. Cynwysa'r rhestr 120 o enwau. Erys eu plant a'u hwyrion â'u hysgwyddau dan yr Arch. Rhifai yr eglwys o'r cychwyn hyd ddiwygiad '59 oddeutu 60 o aelodau. (Cymharer y cyfrif o'r Ystadegau ynglyn â hanes y diwygiad ymhellach ymlaen).
Ymwelid â'r gymdogaeth gan gewri'r pulpud. Nid oedd eu cydnabyddiaeth am oedfa am lawer blwyddyn ond swllt neu ddau, ac mewn dim amgylchiad dros 3s. Dyma restr pregethwyr Mehefin a Gorffennaf, 1823: John Jones Llanllyfni, John Jones Tremadoc, Griffith Solomon, Rowland Abraham, Richard Jones y Wern, Robert Owen Llanystumdwy, Owen Jones Plasgwyn, Dafydd Cadwaladr.
Yn y flwyddyn 1836, dewiswyd Owen Williams Hafod rhisgl yn flaenor, a thua'r un adeg William Griffith Williams Hafod y llan, y ddau yn feibion i'r swyddogion cyntaf. [Yr un adeg a William Griffith, neu William Griffith Williams, y dewiswyd Gruffydd Prisiart, yn ol fel y dywedai William Wmffre wrth Carneddog. Cymru XIX., rhif 108, t. 28. Dywedir, hefyd, mai dau swyddog oedd yma ar y pryd. Rhaid fod y dewisiad, gan hynny, rhwng dewisiad Owen Williams yn 1836 a marw Griffith Jones yn Hydref 18, 1837. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, fe wnawd William Roberts, brawd John Roberts Waterloo, yn flaenor yma. Fe symudodd y ddau olaf i'r pentref. Edrycher Pentref]. Bu farw Owen Williams, Ionawr 10, 1853, yn 47 oed, er colled a galar dwys i'r eglwys. Ceir cofiant iddo gan John Owen Gwyndy yn y Drysorfa