(1854, t. 60). Crynhoir yma y cofiant hwnnw. Yn Hafod rhisgl ceid gorffwysfa a llety cysurus, a chyfeillach a berffeithiai'r cwbl. Pan oedd y seiat yng nghapel y pentref, yr oedd gan y teulu hwn chwe milltir o ffordd yno, ac yr oedd rhai teuluoedd eraill a chanddynt chwaneg. Sonia John Owen am yr eglwys yn Hafod rhisgl cyn adeiladu'r capel. Diau y cynhelid seiadau yno ynglyn â'r odfeuon. Magwyd Owen Williams fel hyn yn yr eglwys yn nhŷ ei dad. Gogwyddai Owen ieuanc at gyfeillach yr hen yn hytrach, nes myned ohono fel Joseph yn un arno'i hun ynghanol y plant eraill. Ar amgylchiad neilltuol cyfarfu yn Hafod y rhisgl John Jones Edeyrn, Michael Roberts, John Jones Tremadoc a Robert Jones Rhoslan, yr olaf yn batriarch erbyn hynny, ac yn un tra hoff o blant. Dechreuodd holi Owen. "Fy machgen bach i, a ddeui di gyda mi i gysgu heno?" Yn ddefosiynol iawn atebai Owen bach yn ol, "Dof, os cai gymorth." Wedi sylwi ar y defnydd o'r ymadrodd gan hen grefyddwyr yr oedd Owen, pan y teimlent eu hunain mewn amgylchiadau yr amheuent eu gallu eu hunain yn eu gwyneb. Gogleisiwyd John Jones Edeyrn gan yr ateb, a dechreuai ymollwng i chwerthin. Ac yna gofynnai i'r bychan, dan chwerthin: 'Cymorth, fy machgen i—cymorth; pa gymorth sydd eisieu i gysgu gyda Robert Jones?" Y colyn yn y cwestiwn ydoedd mai un tra aflonydd yn ei wely oedd yr hen Robert Jones, a chan fod gan yr henafgwyr hynny i gyd eithaf profiad o'r peth, nid bychan y difyrrwch a barai ateb y bachgen a choegni'r hen Edeyrn. Tebygid ddarfod i'r mawr lawenydd fod yn fymryn o wers i'r bachgen hefyd, gan roi syniad newydd iddo am y gradd o berygl a allai fod mewn ymyryd â phethau perthynol i bennau gwynion. Aeth i'r ysgol i Dremadoc yn 12 oed, ond ni chwareuai yno ond anaml â phlant eraill, ac yr oedd difrifwch yn ei wedd a'i ymddiddanion. Llafuriodd am wybodaeth ynghanol gofalon y fferm, nes y daeth y blaenaf yn hynny yn yr ardal. Wedi ei alw yn unllais gan yr eglwys fel blaenor, fe ymroes o newydd i fuchedd sanctaidd ac i wahanol ganghennau gwasanaeth y swydd. Meddai gymhwysterau anghyffredin i ddysgu ac arwain eglwys, sef gwybodaeth eang yn y Beibl, hynawsedd tymer a challineb, profiad o bethau crefydd ynddo'i hun, ynghydag ymarweddiad amlwg mewn duwioldeb. Ond ni pharodd y cymhwysterau hyn iddo esgeuluso rhannau allanol y swydd, ac nid llai amlwg ei gymhwysterau yn y rhannau hynny. Yr oedd yn an hawdd cyfarfod â gwell gwladwr. Wrth ddysgu ac ymddiddan yn y cyfarfod eglwysig ychydig o'i
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/181
Gwedd