Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eiriau ei hun a ddefnyddiai, ond geiriau y Beibl hyd yr oedd modd a danghosai fedrusrwydd mawr wrth eu cymhwyso. Byddai ei ymddiddan â rhai wedi eu goddiweddyd ar ryw fai yn llawn cydymdeimlad, a medrai arfer geiriau syml y Beibl mewn ymddiddan felly, nes y byddai'r ymadrodd yn barnu meddyliau a bwriadau y galon. Wrth anog i gariad brawdol, dywedai mai cariad oedd y prif rosyn yng ngardd-lysiau Iesu Grist. Prin byth y gweddiai heb ofyn am i gariad gael ei dywallt ar led mewn calonnau. Fel Ioan y disgybl anwyl yr oedd yn llawn cariad. Atebai i'r darlleniad Saesneg o'r geiriau, Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, sef, Gwyn eu byd gwneuthurwyr tangnefedd. Un tro daeth cymydog ato yn danbaid iawn ei dymer am fod defaid Hafod y rhisgl wedi torri i'w dir ef. Atebai yntau'n llariaidd, "Gallwn wneud yr hyn a rwystra'r defaid mewn ychydig amser; ond pe dechreuem ni gweryla o'u hachos, gallai hynny barhau am flynyddoedd." Yr ateb arafaidd a ddenodd y cymydog i'r gongl at y bibell, a gyrrwyd pob natur ddrwg i ffordd. Gwraig yn dod ato i gwyno fod gwraig arall wedi ei difrio yn gywilyddus. "O!" ebe yntau, un wan ydi hi, 'does ganddi hi ddim llywodraeth ar ei thymerau gwylltion. Y mae hi'n ymguro nes anafu ei hun. Ond yr ydych chwi yn gref i oddef, ac felly yr ydych yn gallu osgoi ei niwed hi." Drwy gyfryw atebion a chynghorion arafaidd y gostyngid ymchwydd y galon. Haelionnus iawn ydoedd i dlodion yr ardal. Pan glywodd gwraig dlawd am ei farwolaeth, torrodd allan,-"Y Brenin Mawr a'm helpio i a fy mhac plant; dyna fy ymwared mewn caledi wedi colli." Ymroes yn ymdrechgar yr ychydig amser a gafodd gyda hwy i ddysgu ei ddau fachgen yng ngeiriau'r ffydd. Cymhellai addysgu'r plant ar eraill. Dywedai gwraig wrtho yn y seiat unwaith, wrth ymddiddan â hi ynghylch ei phlant, y byddai'n dwrdio llawer amynt. "Pe baech yn dysgu mwy," ebe yntau, "caech ddwrdio llai." Gwnae bwynt o ymddiddan ynghylch pethau crefydd gyda rhai dibroffes. Cyffelyb ydoedd mewn cystudd maith a nychlyd i'r hyn ydoedd yn iach. Er dangos yn gynil weithiau awydd am lesad, gwelid yn fwyaf amlwg ganddo ymostyngiad tawel i ewyllys ei Dad nefol.

Mab Rhys Williams oedd William Griffith Williams. Fel gyda'i dad yr achos mawr a lle cynnes iddo yn ei galon. Daliodd yn ffyddlon yr un fath er i'r llewyrch allanol ar bethau amrywio. Yr oedd yn neilltuol o ofalus am i'r gwasanaethyddion fyned i'r