Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

moddion. Elai cynifer ag oedd modd o'i dŷ ef i'r gwasanaeth bob amser. Ar adegau elai i hwyl neilltuol yn y seiat. Arferai John Griffith Porth treuddyn, Prenteg, ag adrodd am "hen wr Hafod y llan yn tanio yn y seiat, ac yn rhoi sbonc oddiwrth y llawr i ganmol ei Waredwr." Bu farw Gorffennaf 22, 1858, yn 67 oed.

Ar ol marwolaeth Owen Williams, dewiswyd yn swyddogion, Pyrs Roberts Llyn du isaf [Pyrs Roberts o 3 i 4 blynedd yn gynt yn ol cofnod yn y Goleuad], John Hughes Hen gapel a John Jones Hafod lwyfog. Symudodd y ddau olaf i Beniel yn fuan. Yn eu lle dewiswyd Robert Williams Belan Wen a William Jones Hen gapel. Symudodd yr olaf i Glynnog (Capel Uchaf).

Yr oedd Robert Williams Belan Wen yn gymeriad cryf a gloew. Yfodd yn ddwfn o Gurnal: meddiannodd ef yn ddigon llwyr i fedru ei ddefnyddio yn rhwydd a pharod yn y seiadau, a hynny er lles a bendith i eraill. Ei fawr nerth oedd mewn gweddi. Fe weddïai ynddo'i hun, fel y dywedir am dano, wrth fyned a dod gyda'i waith beunyddiol, a gweddïai yn y capel nes tynnu ohono y nefoedd i lawr. Erys yr atgof melus am ei weddïau hyd heddyw. Yr oedd iddo ddylanwad ar ieuenctid anystyriol. Fe ddanghosai lymder yn erbyn arferion drwg. Bu farw Tachwedd 15, 1871. Yr oedd John Hughes Hen gapel yn gofiadur pregethau digyffelyb braidd. Bu John Jones Hafodlwyfog yn wasanaethgar gyda'r ysgol a'r canu. (Edrycher Peniel ar y ddau olaf.) Ystyrrid William Jones Hen gapel yn ddiwinydd rhagorol.

Bu cyfnod cyn diwygiad '59 pan nad oedd ond 12 yn yr eglwys yn cymeryd rhan gyhoeddus. Un peth oedd yn galonogol, pan gollid un o'r rhif codai un arall yn ddiffael yn ei le. Cynhelid ysgol yn Blaen Nantmor, ac yno ni wnae yr un dyn arfer gweddi gyhoeddus; ond gwneid hynny am beth amser gan ddynes, Sioned Wmphre Hafodowen. Yn y diwygiad daeth amryw bennau teuluoedd yn aelodau, à chwanegwyd o 25 i 30 at y rhif. Cludid ambell wreichionen yma oddiar aelwyd Bethesda, lle gweithiai rhai o wŷr ieuainc y Nant. Prynhawn Sadwrn, Tachwedd 12, y daeth Dafydd Morgan yma. Dacw Hugh Jones Drws y coed yn y sêt fawr yn ei ddagrau. Adwaenai'r diwygiwr ef er ei ymweliad blaenorol. "A ddowch chwi heddyw, Hugh Jones?" gofynnai'r pregethwr. Ac yna cododd ei lais mewn oslef dyner, felodaidd,—