Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y mae dy briod yn edrych dros y canllawiau aur ac yn disgwyl am danat, a ddoi di heddyw?" Ar ol y bregeth, hysbyswyd fod un ar ol yn ymyl y drws. "Y mae yma chwaneg nag un," ebe'r diwygiwr, "chwiliwch eto." Gwnaed ail ymchwil heb ganfod neb. Rhaid fod yma fwy nag un," ebe yntau, "chwiliwch yn fanwl eto." Wedi ymddiddan â'r wraig yn ymyl y drws, dywedodd un o'r blaenoriaid, "Dyma ni wedi cael gafael mewn un arall, Mr. Morgan," "Ond own ni'n dweyd i chwi," ebe yntau. Yr henwr, William Jones Cefn y gerynt ydoedd. Eistedd yn y sêt fawr yr ydoedd fel arfer, oblegid ei fod yn drwm ei glyw. "Wel, oni fuasai'n biti ini golli hwn," ebe'r diwygiwr. "Faint ydi'ch oed chi ?" "Pedwar ugain a dwy." "Wnewchi ddechre cadw'r ddyledswydd ar unwaith?" "Rwy wedi dechre, yn barod." "Ers faint?" "Ers bythefnos." "Welwchi, bobol, dechre gweddio wythnosau cyn proffesu. Wn i ddim beth yw'r rheswm, os nad gweled yr oeddynt ill dau [yr oedd y diwygiwr wedi cyfeirio at henwr arall 84 oed, ag y bu'r cyffelyb yn ei hanes] eu bod wedi ei gadael yn bell iawn cyn dechre, a'u bod yn teimlo fod eisieu gweithio tipyn ymlaen i wneud i fyny. Pe buasai William Jones yn mynd fel yma ar ei ddwyffon at ddrws un o'r mawrion yn y cwm yma, ac yn cymell ei wasanaeth iddynt, fuase'r un ohonynt yn rhoi diwrnod o gyflog iddo, ond dyma'r Arglwydd yn ei dderbyn, ac nid hynny'n unig, ond dyma fe yn cael dyfod i mewn yn y first class. Yr wyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megys i tithau." Gwnel awdur Cofiant Dafydd Morgan y sylwadau hyn: "Hyfryd iawn i'r hen saint a gofient ddiwygiad Beddgelert oedd gwylio' prydferth ysbonciadau yr ewigod ar fynyddoedd y perlysiau.' Mynych y clybuwyd gwydrau y serenod [yn hongian o'r gronglwyd] yn tincian pan darawai ambell i orfoleddwr ei ben yn eu herbyn. Atgyfodwyd emynau 1818, ac yr oedd gwlith eu genedigaeth arnynt ym mawl 1859. Wele un ohonynt:

'Rwyf yma fel y llenad
Yn llawn o frychau i gyd,
Yn newid mae fy mhrofiad
Yn aml yn y byd ;
Os unwaith caf fynd adre
Yng nghlwyfau Adda'r Ail,
Ni byddaf mwy fel lleuad,
Ond disglair fel yr haul."

(Cofiant Dafydd Morgan, t. 464.) Rhif yr aelodau, Ionawr, 1854, 43; yn niwedd 1856, 56; 1858, 56; 1860, 91; 1862, 88; 1866,