Hafodowen (Nazareth, Penrhyndeudraeth ar ol hynny) a Pyrs Davies Cwm llan (Tabernacl, Porthmadoc, ar ol hynny) i'r swyddogaeth. Yr oedd Pyrs Davies yn flaenllaw gyda phob symudiad, ac yn amlwg yn y gras o haelioni. Dysgwyd yr eglwys i gyfrannu ganddo. Yn y flwyddyn 1878 dewiswyd Richard Jones Hafodydd brithion, William Jones Buarthau (Beddgelert wedi hynny) a William Humphreys Tan y bryn. Daeth Richard Jones yma o Beniel. Ni fu byw ystod faith ar ol dod. Ychydig o raen oedd ar ganiadaeth yma cyn ei ddod; ond gwellhaodd yn fawr drwy ei ymdrechion ef. Bernir fod ol ei addysg ef ar ganiadaeth y lle hyd heddyw. Bu farw Mai 16, 1858, yn 57 oed.
Symudodd Ellis Roberts i Nazareth, Penrhyndeudraeth, tuag 1878, a galwyd ef i'r swydd yno. Bu farw Mawrth 7, 1888, yn 60 oed. Magwyd ef yn y Clogwyn, Nantmor, a'i dad ef oedd y blaenor, William Roberts y Clogwyn. Cafodd y fraint o'i ddwyn i fyny ynghanol traddodiadau crefyddol neilltuol. Oddeutu chwe blynedd y bu ei arhosiad yn yr ardal hon, wedi ei ddewis yn flaenor. Eithr fe'i profodd ei hun yn yr amser hwnnw yn wr rhagorol, yn ddychryn i anuwioldeb, ac yn un na phrisiai am wên na gŵg tlawd na chyfoethog, os credai fod yr hyn a wnaent o'i le. Un bore Sul, fe welodd un o foneddigion yr ardal allan yn saethu. Aeth ato yn y fan i ddweyd nad oedd yn gwneud yn iawn, ac yn lle ffromi ac ymosod arno, fel yr ofnid gan y rhai oedd yn edrych ar yr hyn elai ymlaen, diolchodd y boneddwr yn gynes iddo. Fel ŵyr i Robert Roberts y Clogwyn, fe'i profai ei hun yn asglodyn o'r hen foncyff.
Bu Pyrs Roberts Llyndy isaf farw Tachwedd 10, 1879, yn 73 oed, yn flaenor ers yn agos i 30 mlynedd. Bu'n ffyddlon a gweithgar, a dioddefodd gystudd trwm a maith yn dawel ac amyneddgar. Ni phroffesodd grefydd nes bod yn ychydig dros 40 oed, a gwnawd ef yn flaenor ymhen rhyw ddwy flynedd. Ymgysylltodd drwy briodas â theulu Dolyddelen, a bu hynny yn achlysur mynych ymweliadau John a Dafydd Jones. Efe a ymdrechai gael dechre pob moddion yn brydlon, a byddai yn gyson ym mhob moddion. Blaenor distaw, doeth. Gallai roi taw ar ddadl. Llafuriodd gyda'r ieuanc. Bu'n dra ffyddlon i'r Cyfarfod Misol, ac adroddai ohono gyda blas. Go anobeithiol ydoedd yn ei gystudd diweddaf hyd yn agos i'r terfyn, pryd y dywedodd wrth ei ferch nad oedd angen canwyll arno, fod pob man yn oleu o'i gwmpas: llu y nef wedi