Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dod i'w hebrwng adref. O fendigedig goffadwriaeth. (Goleuad, 1879, Tachwedd 15, t. 13; a 29, t. 12.)

Yn 1882 rhowd porth i'r capel ar draul o £50. Awd, yn y man, drwy brofiad dierth ynglyn â'r capel. Adroddir yr helynt gyda theimlad fel yma: "Yn Rhagfyr, 1885, daeth prydles y capel i ben. Gofynnai perchennog y tir £400 am dano, neu ymadael â'r lle. Yn y flwyddyn 1886 fe geisiwyd drwy bob moddion ddarbwyllo'r perchennog o anhegwch ei gynnyg, ond yn ofer. Daeth y rhybudd terfynol i ymadael â'r capel, a thaenodd hynny donn o brudd-der dros yr ardal. Enillwyd, hefyd, gydymdeimlad gwlad. Gwaith an hawdd oedd cloi y drysau a rhoi'r allweddau i'r perchennog a myned i ysgoldy y bwrdd i addoli. Yn arbennig, yr oedd yn anhawdd i hen frodyr a chwiorydd oedd wedi treulio'u hoes yn swn y gweddïau taerion a'r pregethau eneiniedig a wrandawsid ganddynt yn yr hen gapel; a rhai ohonynt yn ystod eu hoes wedi teimlo pethau mawr yno, nes yr oedd eu heneidiau wedi ymglymu am y lle, a'i wneud yn fangre anwylaf y ddaear iddynt. Ac yn ddiweddar iawn, mewn cyfarfod, clywsom Mr. Robert Williams Hafod y rhisgl yn adrodd ei hanes ef a Mr. William Williams Pen y bryn, yn myned rhyw ddydd Sadwrn gyda'r drol i gludo'r hyn oedd y gyfraith yn ganiatau o ddodrefn y cysegr, i ysgoldy'r Bwrdd. Dywedai mai dyma'r gorchwyl anhawddaf y buont yn ei gyflawni yn eu bywyd, a bod y dagrau yn treiglo i lawr eu gruddiau pan yn troi eu cefn ar y capel gyda'u llwyth cysegredig. Wedi cyfarfod o honom i addoli yn yr ysgoldy am rai misoedd, penderfynwyd ceisio dod i ryw delerau â'r boneddwr. Dyma'r nodiad yn llyfr y capel am y pryniant, a gadewir iddo lefaru drosto'i hun: 'Tachwedd 10, 1887, prynnwyd y capel, y tŷ, a 1003 llathen ysgwar o dir am £335 gan J. W. Jones, Ysw., Llundain [nid y blaenor o'r enw].' Er y cwbl, yr oedd llawenydd mawr yn yr ardal, wedi cael y capel yn ol, a'i gael yn feddiant bythol."

Bu Mr. John Jones (Hermon, Bethesda) yn trigiannu yma of 1868 hyd 1873, gan gadw ysgol a phregethu. Yn 1873 y tarawyd ysgoldy Blaen Nantmor gan fellten, a pharodd ddinystr mawr arno. Ail adeiladwyd ar draul o tua £40.

Yn y flwyddyn 1887, hefyd, yr ail-adeiladwyd ysgoldy Blaen Nantmor ar draul o £80. Ymroes yr eglwys o ddifrif yn wyneb y beichiau hyn. Llwyddwyd i glirio'r cyfan mewn saith mlynedd.