Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn 1879 dechreuodd Griffith Owen bregethu; yn 1885 derbyniodd alwad i fugeilio'r eglwys. Yn 1891 daeth y stâd y mae'r capel arni yn feddiant Syr Edward Watkin. Cyflwynodd ef dir i'r eglwys i adeiladu tŷ capel arno. Ac yn 1895 cyflwynodd dir drachefn i adeiladu tŷ'r gweinidog arno. Traul yr olaf, £260. Yn 1897 yr adeiladwyd y tŷ capel, ac yr adgyweiriwyd yr hen dŷ capel, gan adeiladu tŷ yn gysylltiedig âg ef, ar draul o £600. Traul y cyfan, £860.

Y swyddogion sy'n aros erbyn 1900: Robert Williams Hafod y rhisgl, Richard Jones Hafodydd brithion, William Humphreys Tan y bryn a William Williams Penybryn. Dewiswyd yr olaf yn 1897.

Dywedir fod gwrthwynebiad cryf i'r ysgol Sul ar y cychwyn. Danghosid cyndynrwydd gyda chychwyn dan y syniad nad oedd ymgasglu ar ddydd yr Arglwydd i ddysgu darllen ddim yn deilwng o'r diwrnod. Dywedai Hugh Hughes Gellidara mai pladurwr o'i gymdogaeth ef a gychwynodd yr ysgol Sul ym Methania. Tybir iddi gael ei sefydlu yn adeg diwygiad 1818, neu feallai ychydig yn gynt. Cynhaliwyd hi gyntaf mewn beudy ar dir Hafod y llan, a elwir Ty'r gorsen. Y mae'r lle hwnnw yn awr yn dŷ annedd, ac yn perthyn i haf-dý Syr Edward Watkin. Ni wyddis pa hyd y bu'r ysgol yno, ond tra bu hi byddai gwraig Hafod y llan yn rhoi pryd o botes i'r rhai a ddeuent yno i'r bregeth, ac a arhosent i'r ysgol. Canodd Hywel Gruffydd am yr hen wraig fel yma:

Beti Jones oedd wraig rinweddol,
Tra defnyddiol yn ei dydd;
Os ei siwmai faith orffennodd,
Byth ni ffaeliodd goleu'i ffydd.

Cynhaliwyd yr ysgol mewn amryw fannau yn y tymor yma. Ymhlith mannau eraill, mewn ty a elwir o hyd yr Ysgoldy. Saif ar ochr y brif-ffordd, yn agos i ran isaf Llyn Gwynant. Ar ol adeiladu'r capel yn 1822, symudwyd yr ysgol yno, ac am oddeutu 16 neu 17 mlynedd, cynhaliwyd hi yno yn un ysgol. Gan fod rhai cyrrau o'r ardal mor anghysbell, tair milldir o ffordd i flaen y Nant, y tu uchaf i Lyn Gwynant, ac o ddwy i dair milltir i Flaen Nantmor, penderfynwyd selydlu cainc ohoni yn y cyrrau hyn. Torrodd y naill gainc allan yn Hafod rhisgl, cartref Owen Williams, a bu yno