oddeutu 30 mlynedd, yn ysgol gref a llwyddiannus, gydag o 35 i 40 o aelodau. Yna lleihaodd poblogaeth y cwrr yma o'r ardal gryn lawer, a phenderfynwyd ymuno âg ysgol y capel. Torrodd y gainc arall yn ffermdy Gelli Iago. Yr oedd hwn yn lle eang, cyfleus. Yn un ran ohono yr oedd y gwŷr, yn y rhan arall y gwragedd, ac yn y rhan arall y plant. Gofelid am yr ysgol yn ffyddlon gan John Roberts Llwynrhwch, brawd Pyrs Roberts Llyn du isaf, er nad oedd yn proffesu crefydd. Rhif yr ysgol hon yn niwedd 1850, 32; yn 1900, 34. Yr oeddid wedi symud yn 1863 o Gelli Iago i'r ysgoldy newydd. Rhif yr ysgol yn y capel a'r ysgoldy ynghyd yn 1900, 120. Y mae Mr. David Pritchard yn traethu ar rai cymeriadau a fu yma heb fod yn swyddogion. John Jones Ty'n llwyn oedd fab yr hen gerddor, John Pritchard Berthlwyd. Ofer iawn ym more. oes. Wylai yn hidl wrth gofio amser ei oferedd. Bu'n arweinydd y gân am flynyddoedd. Meddai ar lais soniarus a mwyn. Yr oedd ei lwybr i'w ddirgelfan mewn gweddi yn goch gan ol ei draed. Bu farw Ebrill 17, 1863, yn 82 oed. Dyma fel y canodd Emrys Porthmadoc iddo:
Dyma fedd hen gristion didwyll
A gyfrifwn megys tad;
Y mae tyst i'w ragoriaethau
Ym mhob mynwes sy'n y wlad.
Gallwn herio gwlad i nodi
Unrhyw wyrni yn ei gam;
Golwg amo wnae i estron
Hoffi'r dyn heb wybod pam.
Pan y plygai John mewn gweddi,
Teimlai ei ysbryd yn cyffroi,
A chyfeiriai fel yr eryr
Tua'r nefoedd heb ymdroi.
Fel tywysog yn yr ymdrech,
Yn hyderus, eto'n ŵyl;
Teimlai'r dyrfa nad oedd yno.
Ddim o'r gelfyddydol hwyl.
Thomas Williams Ty'n coicia [Ty'n coed cae] oedd un o gewri y Nant mewn duwioldeb. Efe oedd arolygwr cyntaf yr ysgol yn yr ardal. Meddai ar ddawn trefnu ac arolygu. Rhagweledydd oedd Robert Gruffydd Ty'n coed cae, a chaffai ei gynghorion sylw. Richard Humphrey Pen y bryn (ac Ysgoldy) oedd enwog am dduwioldeb. Ei ddirgelfan dan gysgod hen gelynen gerllaw'r tŷ. Fe dorrai allan yno weithiau mewn hwyl gorfoledd.