Mwynhad oedd bod yng nghwmni Margaret Davies Ty'n llwyn, fel y traethai am ofal ei Gwaredwr am dani. Bu farw yn 1847 yn 62 oed. Dyma fel y canodd Emrys iddi hithau:
Triniai'r byd a'i amgylchiadau
Fel yngoleu'r farn a fydd.
Yng nghyfeillach plant yr Arglwydd,
Pan y cwrddent yn ei Dŷ,
Yr oedd arogl ar ei phrofiad
O'r eneiniad oddi fry.
Swn cadernid y Cyfamod
Oedd yn ei hochenaid ddofn,
Distaw ddagrau hyder santaidd
Oedd yn angeu i'w holl ofn.
Sian Evans, gwraig Pyrs Roberts y Bwlch, a gadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hunan wedi marw ei phriod, a rhaid ydoedd i bawb fod yn bresennol. Bu farw Mehefin 27, 1842, yn 76 oed. Sian Roberts Penrhiwgoch oedd dra gofalus am y ddyledswydd deuluaidd hwyr a bore. Yr oedd ei phriod yn fyw ac yn aelod eglwysig, ond arni hi y gorffwysai yr arweiniad yn y gwasanaeth. Ei " diolch " cyhoeddus yn ennyn gwres yn y gwasanaeth. Bu farw Hydref 1866, yn 60 oed.
Ow I dynnu priod anwyl—a thrwyadl
Athrawes o'i gorchwyl;
Un deg oedd—nodedig ŵyl—o dan gu
Aden Iesu mae'n cadw noswyl.
Gwen William, merch Hafod llan, oedd ei hun yn wraig dduwiol, a magodd ferched a ddaeth yn neilltuol felly. Bu Doli, ac ar ei hol hi, Elin, yn cadw'r tŷ capel, a gwnaethont eu rhan yn ardderchog yn y cylch hwnnw. Y diwrnod y bu farw Elin aeth tair o ferched ieuainc o Feddgelert ar hynt i hel cnau. Ym mhen uchaf llyn Dinas yr oeddynt yn dod ar i fyny, mewn bwriad i fyned gyn belled a'r Bwlch. Gwelai'r tair gyda'i gilydd Elin William mewn gwisg wen yn siglo'i hun yn wynfydus ar gangen coeden. Dychrynasant yn yr olwg, ac ymlaen â hwy. Erbyn cyrraedd ohonynt y tŷ capel, yr oedd Elin William wedi marw ers ugain munud. Ymddanghosodd ei chorff serol iddynt, ar hedfan ei berchen i'r trigfannau nefol, ar agwedd gyfaddas i'w dimadaeth ieuangaidd hwy. Mae enwau'r tair ar gael, ac yr oedd un ohonynt yn fyw yn gymharol ddiweddar. [Sefyll ar y gangen yr oedd corff serol Elin William, yn ol Mr. John Roberts (Llanllyfni), a Jane ei chwaer ef oedd un o'r tair a'i gwelodd, ac Ann Parry Plas Colwyn ydoedd un