Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall.] Ann Jones fu'n gweini o ewyllys calon yn nhy'r capel, ac a fagodd blant sy'n golofnau i'r achos. Caredig wrth y tlawd oedd Beti Jones Hafod llan, ac un yn ymfawrygu mewn gweini ar weision yr Arglwydd. Alis Roberts, gwraig gyntaf William Gruffydd Hafod llan, oedd yr un a gafodd yr olwg ryfedd arni ei hun yn anisgwyliadwy ac yn fythgofiadwy, wrth odro ar fore Sul yn amser y diwygiad mawr.

Trefnus, gofalus a fu—mwyn, wiwglod,
Mewn eglwys a theulu;
Drwy ras aeth at yr Iesu,
I drigfan y Ganaan gu.—(Hywel Gruffydd.)

Y mae gan Carneddog nodiad ar Fanny Jones Fedw bach. Hen ferch wreiddiol, a hyddysg yn yr Ysgrythyrau.

O Feibl Peter Williams
Derbyniai faeth o hyd,
A deall wnae ei wersi cudd,
Heb gymorth dysg y byd.

Byddai'n ateb yn rhagorol yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Gyda hi yn y Fedw y lletyai y pregethwyr a ddeuai i'r ysgoldy. Yr oedd yn hynod am ei Hamen glochaidd. Hi fu'r olaf i'w seinio yn y lle. Bu farw Mai 14, 1885.

Brwdfrydig fyddai 'i moliant,
A chynes ei Hamen,
Nes dringodd i glodfori'r Oen,
A'i choron ar ei phen.—(Carneddog.)

Swm y ddyled ar yr adeiladau yn 1900, £660. Rhif yr eglwys, 101.