Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYD-DDU.[1]

Rhyd-ddu sydd bentref bychan ar esgair y Wyddfa, ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Feddgelert, oddeutu 9 milltir o'r cyntaf a 4 milltir o'r olaf. Y mae'r esgyniad oddiyma i ben y Wyddfa yn llawer ysgafnach nag o Lanberis. Llawer teithiwr hynod â meddyliau hynod yn dygyfor o'i fewn a aeth heibio yma o bryd i bryd. Un o'r hynotaf o'r cyfryw yn ei ffordd ei hun yn ddiau oedd George Borrow. Yr ydoedd wedi cychwyn o Gaernarvon ar brynhawn Sul am oddeutu tri ar y gloch. "Ymhen ennyd fechan edrychais yn ol; y fath olygfa! Y llyn arianaidd a'r mynydd cysgodfawr dros ei ochr ddeheuol yn edrych yn awr, tebygwn, yn dra thebyg i Gibraltar. Oedais ac oedais, gan syllu a syllu, nes o'r diwedd drwy ymdrech yn unig tynnais fy hun ymaith. Yr ydoedd yr hwyrnos bellach yn hyfryd o glaear yng ngwlad y rhyfedd- odau. Ymaith y ffrystiais, gan fyned heibio i ddwy ffrwd dyrfus yn dod o'r Wyddfa i dalu teyrnged i'r llyn. Ac yn awr yr oeddwn wedi gadael y llyn a'r dyffryn tu ol, ac yn esgyn i fyny'r bryn. Fel y cyrhaeddwn ei drum, i fyny cyfodai'r lloer i lonni fy ffordd. Ymhen ysbaid fechan wynebid amaf gan fwlch caregog, gwyllt, a ffrwd yn rhedeg i lawr y bwlch â rhuad gwag, gyda phont yn gorwedd drosti. Gofynnais i ffigyr a welwn yn sefyll wrth y bont enw'r lle. 'Rhyd-ddu '-croesais y bont. Yr oedd llais y Meth- odist yn ysgrechian o gapel bychan ar fy chwith. Aethum at y drws a gwrandawn: 'Pan gymer y pechadur afael yn Nuw, Duw a gymer afael yn y pechadur.' Yr oedd y llais yn ddychrynllyd o grug. Aethum ymlaen." Tebyg mai crygni'r hwyl Gymreig ydoedd hwn, fel a glywir weithiau o hyd gyda llais yn dod o waelod corn y breuant, mewn gwr bron-eang, nerthol, nwydus. Pwy bynnag oedd y pregethwr cryglyd hwnnw yn 1854, fe ddywedodd frawddeg a deithiodd y byd.

Egyr nodiadau Mr. R. R. Morris fel yma: "Nid oes yng Nghymru gwmwd o fath y cwmwd y gorffwys pentref Rhyd-ddu

  1. Ysgrif o'r lle, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1884. Ysgrifau Mr. H. Parry Williams a Pierce Williams. Ysgrif ar yr Ysgol Sul a'r hen athrawon gan Mr. J. Ogwen Owen (yn cynnwys atgofion Mr. Edward Owen yr Hendre, ger Rhuthyn). Nodiadau ar yr hen flaenoriaid gan Mr. Edward Owen. Ysgrifau yn y Drych am 1890 ar Blwyf y Bedd. Ysgrifau Mr. Pritchard Cwmcloch. Nodiadau gan y Parch. R. R. Morris Blaenau Ffestiniog a Charneddog.