tua'i ganol, a mynyddoedd brasaf Eryri yn gylch o amgylch. Y Wyddfa a'r Aran ar du y dwyrain, Moel Hebog ar du y de, y Mynydd Du a'r Mynydd Mawr ar du y gorllewin, a Moel Eilian ar du y gogledd. Safer ar ben Pont Caergors, agorer y llygaid, ac ni cheir golygfa o'i bath yng Nghymru. Mae'r olygfa gymaint yn eangach yma nag yn Nant Gwynant, neu Nant Peris, neu Nant Ffrancon. Yr wyf yn gweled heddyw yn y niwl lawer o'r hen seintiau, ac yr wyf yn clywed rhai ohonynt yr awr hon yn siarad, yn gweddio, yn canu. Nid yw melustra cerdd bore oes byth yn tewi. Richard Roberts Caergors, fy nhaid, wyf yn ei gofio gyntaf o bawb. Yng Nghaergors gyda fy nhaid y cefais fy magu hyd nes oeddwn tua 12 oed, pan y symudais at fy rhieni i bentref Rhyd-ddu. Yr wyf yn cofio gwedd, yn cofio llais, yn cofio caredigrwydd fy nhaid mor fyw heddyw a 50 mlynedd yn ol."
Atgofion o'r hen amser yw'r cerryg orest a ddanghosir eto yn yr ardal. Yr ymrysonfa ydoedd i'w codi, naill ai ar y gliniau neu ar hyd y breichiau, neu ynte i'w taflu dros yr ysgwydd. Ar y nos Suliau ar nosweithiau hirion y gaeaf yn yr amser hwnnw fe ddeuai y trigolion ynghyd i dai ei gilydd i adrodd chwedlau, ac ar yr un pryd i wneuthur rhyw fân gelfi, llwyau pren neu'r cyffelyb, a'r merched i weu hosannau. Yfid yn helaeth o'r cwrw cartref oedd mewn bri y pryd hwnnw. Ar hirddydd haf ymroid i ymladdfeydd ceiliogod, yr hyn a fynych arweiniai i ymladdfeydd gwŷr, a'r rheiny weithiau yn ffymig a gwaedlyd. Ymryson codymu oedd mewn bri, a thynnu'r dorch, codi neu daflu cerryg, rhedeg, a champau eraill. Elai'r trigianwyr, neu rai ohonynt, yn achlysurol naill ai i eglwys y Betws neu i eglwys Beddgelert. Ni fynnai'r bobl hynny glywed sôn am y fath beth a phregethu y tuallan i furiau yr eglwys. Brygawthian, ac nid pregethu ydoedd hynny. Yr ydoedd gwr o fath Elis Wyn, awdwr y Bardd Cwsc, dan ddylanwad yr un ragfamn, fel y dengys ei lyfr. Arferent ddweyd, hefyd, fod son am eglwys yn y Beibl, ond nid am Fethodistiaeth.
Yr unig hysbysiad pendant a welwyd ynghylch cychwyn pregethu yma sydd yng nghofiant Michael Roberts i'w dad. Wrth son am ei dad yn dilyn pregethu yma ac acw pan yn fachgen ieuanc, fe ychwanega y pregethid yn fore, hefyd, ym Mwlch y gylfin, ar dir Drws y coed uchaf, nid yn nepell oddiwrth y fan yr adeiladwyd capel Rhyd-ddu wedi hynny. Yn 1752 y ganwyd John Roberts,