cyffelyb iddo, yn gyfrodedd â hanes crefydd, megys y dysg yr ysgrythyrau sanctaidd i ni synio.
Gwr cryn lawer yn israddol i'w dad ar y cyfan oedd Griffith Ellis y mab, ond gyn hynoted ag yntau mewn rhai cyfeiriadau. Nid yn feddyg dyn nac anifail, fel ei dad, ond, fel yntau, yn gallu gwastrodedd gwallgofiaid yn eithaf deg. Ac er yn fwy anystyriol o lawer na'i dad, yr ydoedd yn hafal iddo yng ngrym cynhenid ei feddwl. Rhywbeth anarferol yn ei olwg. O ran ffurf a maintioli y corff, y pen a'r wyneb, ac hyd yn oed mynegiant y llygaid i fesur, yn swrn debyg i Napoleon fawr. Pan safai gyda'i gefn ar y mur, yn gwrando ar ymddiddan heb gymeryd arno glywed, yr oedd osgo'r corff ac edrychiad y llygaid yn union fel eiddo'r mochyn yn ei gwt, pan glyw swn dieithriaid yn dynesu. Meddai ar gyflawnder o eiriau disgrifiadol, a dywediadau ar ddull diarhebion. Yr oedd yn anarferol o ffraeth a chyflym ei ateb. Byddai awch ar ei ymadroddion mewn ymddiddanion cyffredin: ei ddywediadau yn gwta, yn frathog, yn ddisgrifiadol, ac yn fynych yn wawdus a choeglym. Er yn eithafol anystyriol mewn ymddiddan, eto yn fucheddol ei foes, heb lwon na serthedd, ac yn ymgymeryd yn naturiol â'r meddwl am y byd anweledig. Trigiannodd yn y Bontnewydd yn y rhan olaf o'i oes. Daeth rhai aelodau o'r teulu hynod hwn yn ymroddedig i grefydd, fel y ceir gwneud cyfeiriad atynt eto. Daeth dau frawd i'r Griffith Ellis olaf dan ddylanwad diwygiad '59. Ystyrrid hwy yn ddynion go anghyffredin. Enghreifftiau oeddynt o'r modd y mae crefydc, ar dymor diwygiad, yn cipio gafael ar ddyn, fel fflam ar babwyzen, mewn amgylchiadau a'i gwna yn eithaf anhebyg o deimlo cim o gwbl oddiwrthi ar dymorau cyffredin.
Cynyrchodd yr ardal rai dynion o enwogrwydd yn y wlad, a rhai eraill o enwogrwydd yn y cylch Methodistaidd yn Arfon. Heb son am brifon yr hen amseroedd, Garmon a Beuno, fel y gwna Owen Williams, dyna John Evans, a droes allan ar ymchwil am y Cymry a ymfudodd i'r America dan nawdd Madoc ab Owain Gwynedd; a'i frawd Evan Evans, a fu farw yn ieuanc, ac a ystyrrid yn bregethwr o'r radd flaenaf. Dyna Gutyn Peris, genedigol o'r Hafod Oleu; Humphrey Griffith, ffrwyth ysgrifell yr hwn a ymddanghosai yng Ngreal Llundain; a'i frawd, Dafydd Ddu Eryri, y gwr cryfaf ei gynneddf nid hwyrach o holl blant yr ardal;