Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac Owen Williams "y Waunfawr," ac Ioan Arfon. Dengys hanes eglwysi Arfon ddarfod i amryw ddynion droi allan o'r Waen i eglwysi eraill, y profwyd eu dyfodiad yn beth gwerthfawr. Un o'r gwŷr hynny oedd Hugh Jones Bron'rerw yn y Capel Uchaf, Clynnog; un arall oedd Dafydd Rowland, pen blaenor Moriah am ysbaid maith; un arall, Robert Evans, prif flaenor Caernarvon.

Y mae Dafydd Thomas yn manylu peth ar hanes rhai gwŷr ag sy'n fwy nodweddiadol o'r lle, yn ddiau, na rhai o'r gwŷr a enwyd, yn gymaint a'u bod yn fwy o wir gynnyrch y lle, wedi aros yma yn hwy, ac heb dderbyn cymaint o ddylanwadau o'r tuallan. Un o'r cyfryw ydoedd Sion Jones y doctor, a fu farw tuag 1820, nodedig am lawer o bethau. Yr oedd yn ddoctor esgyrn. Byddai'n asio esgyrn rhai wedi eu hanafu yn y chwarelau. Yr oedd yn feddyg llysieuol, hefyd. Ef a'i feibion ymhlith y rhai cyntaf i godi tai ar y cytir. Efe oedd y mwyaf blaenllaw yn yr helynt gyda John Evans y cyfreithiwr. Llusgwyd ef gan y beiliaid i'r carchar yn yr achos hwnnw. Yn rhyw gymaint o heliwr a physgotwr, gan foelystota ar ol Nimrod, a defnyddio ymadrodd Morgan Llwyd. Yr oedd yn yr ardal ryw gred yn ei ddawn i godi cythreuliaid. Ymhen blynyddoedd ar ol ei gladdu ym mynwent y Betws, gwelai rhai pobl ef mewn cornelau tywyll yn yr hwyrnos. Gwelwyd ef felly gan wehydd ar allt y Pwll budr, yn anelu at aderyn yn y coed. Nid aeth yr ergyd allan, dim ond ffrit y badell." Eithaf gorchest i wr a'i gorff yn gorwedd dan y briddell. Cerddodd y gwehydd yn ddiarswyd tuag ato, a gofalai y doctor am gadw yn yr un pellter o hyd oddiwrtho, nes dod ohono i bendraw y winllan, ac yna mewn modd nas gallai dim dewin ei olrhain, fe ddiflannodd o'r golwg. Dywedodd y gwehydd yr ystori hon wrth fam Dafydd Thomas, gyda rhai merched eraill. yn y cwmni, a Dafydd Thomas yn llencyn yn gwrando gyda'i lygaid yn grwn agored. Yr oedd Dafydd Thomas o'r farn y credai y gwehydd yn gwbl ei stori ei hun. Robert Dafydd "Luke yr adeiladydd, a fedrai adeiladu tŷ o'i sylfaen i'w grib heb gynorthwy neb copa walltog. Rhyw £7 neu £8 ydoedd ei dâl am wneud tŷ, ac efe a wnaeth y rhan fwyaf o'r tai a adeiladwyd yn ei amser ef. Cawr o faint a nerth. Wrth gylymu pwysau ar flaen y llif medrai lifio arno ei hunan yn y pwll llif. Argyhoeddwyd ef dan bregeth Richard Tibbot yn Nhŷ-ucha'r-ffordd, ac ystyrrid ef yn niwedd ei oes yn dduwiolach gwr na chyffredin. Tuag adeg brwydr Waterloo