y dallwyd Hugh Morris wrth danio pylor yn y Gloddfa. Wrth grwydro am ei damaid rhowd llety iddo ar un noswaith gan Sion Morris yr Ynys. Eglwyswr oedd Sion, 'a Methodist oedd Hugh. Ar y weddi yn y gwasanaeth teuluaidd, cofiai Hugh am y teulu caredig y lletyai gyda hwy, ac yn enwedig am wr y tŷ. Ar hynny, dyna Sion ar ei draed,—"Hwda, Huwcyn, na hidia am danaf fi! Gweddïa dros y brenin a'i filwyr; mi weddïaf fi drosof fy hun!" Gan y gwas y clywodd Dafydd Thomas y peth hwn. A dywed ymhellach fod pump neu chwech o'r tyddynwyr y pryd hwnnw yn cadw gwely i grwydriaid tlodion a ddeuai o amgylch yn y dull hwnnw. Myntumia yr un pryd eu bod yn onestach pobl na'r "haflug anwaraidd " sy'n bla ar y wlad yn awr. Ond tybed nad oedd y tyddynwyr hynny yn gadael i'r cŵn defaid benderfynu pa rai o'r crwydriaid y gellid dibynnu ar eu gonestrwydd?
Edrydd Richard Jones yn y Traethodydd am rai pobl oddeutu canol y ganrif ddiweddaf, nad elent i na llan na chapel. Yn eu plith, dyna Neli Morgan Bryn Goleu. Berr a chorffol, garw yr olwg arni a gwrol, a "llais garw, gwrol," fel Cigfran Morgan Llwyd. Hyddysg yn hanes y tylwyth teg a llen gwerin. Craff ei sylw ar arwyddion tywydd. Yr oedd Neli Morgan yn wrthwynebol iawn i'r ymfudo i'r America yr oedd cymaint ohono y pryd hwnnw. 'Does yno ddim lle ffit i bobol fyw yno, wel di. Mae yno lyffant du dafadennog, cimint a theiciall, a hwnnw yn gweiddi fel mul mawr, weldi!"
Coffeir yn yr ardal, hefyd, am Evan Jones y Cyrnant, tad Richard Jones y Cymnant, fel dyn go anghyffredin, heb fod yn grefyddwr, ac heb dderbyn dim manteision dysg. Meddai ar wybodaeth dda yn y gyfraith a phynciau eraill, ac elid ato gan liaws am gyngor, a meddai ar synwyr cyffredin a chraffter go anarferol. Enghraifft dda o'r gwladwr syml a chryf, wedi ei fagu a'i feithrin yn gyfangwbl ar aelwyd ei henafiaid, wedi ei wneud o uwd a thatws llaeth, ac wedi cadw o fewn y wal derfyn deuluol, heb hedeg i'r goruchelder, heb dramwy rhandiroedd dirgelfan diarffordd.
Cof gan Ddafydd Thomas am ddynion yn gweithio am wyth neu naw ceiniog y dydd yn y cynhaeaf gwair, a gweithio o bump y bore hyd naw yr hwyr. Yr arlwy adeg cynhaeaf, bara ceirch a haidd, ynghydag ychydig enwyn neu gawl llaeth. Tatws llaeth i