Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ginio, a da os ceid dipyn o facwn neu gig mollt neu eidion wedi ei halltu a'i sychu.

Rhydd Dafydd Thomas am nelliad o hanes addysg yn yr ardal. Y mae efe, pa fodd bynna, yn gadael allan hanes a roddir yn Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru (III. 264). Yno fe roir ar ddeall fod yr Anibynwyr yn 1816 wedi cael addewid am ysgol rad symudol y Dr. Daniel Williams, a oedd yn cael ei chadw ar y pryd ym Methel, gan Ellis Thomas. Disgwyliasid y rhoisai y Methodistiaid fenthyg eu capel i'r amcan, ond gomeddwyd, a bu raid ardrethu tŷ gwag ym Mryneithin. Wedi i'r Methodistiaid ddeall, neu eu blaenoriaid, feallai, fod llawer wedi eu tramgwyddo gan eu gomeddiad, fe agorwyd y capel i'r ysgol a rhoddwyd y tŷ i fyny. Dywed Dafydd Thomas am y blynyddoedd oddeutu 1830 nad oedd. ond ychydig o bennau teuluoedd o 40 i 50 oed yn medru darllen; ond bod lliaws o rai hŷn na hwy yn ddarllenwyr da. Y rheswm am hynny ydoedd manteision rhagorach y dosbarth olaf. Bu un o ysgolfeistriaid Griffith Jones Llanddowror am dymor ym Metws Garmon. Bu taid Dafydd Thomas yno gydag ef am dros flwyddyn. Ymadawodd yr ysgolfeistr oddiyno i Landwrog, fel y tybir. Bu'r ysgol drachefn ym Metws Garmon. Clywodd Dafydd Thomas John Pritchard, taid Eos Bradwen, yn dweyd iddo ef fod yno, a bod yn gydysgolheigion âg ef, John a Humphrey a Dafydd (sef Dafydd Ddu Eryri), meibion Thomas Gruffydd y pregethwr; Evan a John, meibion Thomas Evans y pregethwr; Griffith Williams (Gutyn Peris); John ac Edmwnd, meibion John Francis, a symudodd yn fuan wedyn i Amlwch. Edmwnd, wedi hynny yn fasnachwr yng Nghaernarvon, ac yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr. Ni chafwyd ysgol am flynyddau ar ol hyn. Bu Dafydd Ddu ei hunan yn cadw ysgol yn y Betws a mannau eraill nid nepell o'r Waenfawr. Nid gwiw ydoedd iddo ef na'i ddilynwyr aros mwy na dwy flynedd. yn yr un man, am yr ystyrrid dwy flynedd yn llawn digon o ysgol i unrhyw fachgen heb amcan pellach mewn golwg ganddo na gweithio â'i ddwylaw.

Gwr ieuanc o Gaernarvon, o'r enw William Owen, a ddaeth i gadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn 1827. "Dyn musgrell, gwael ei iechyd, a chrwth mawr ar ei gefn. Oherwydd mynych wendid, a'r ysgol yn edwino, ymadawodd ymhen y flwyddyn." Yn 1829 daeth Thomas Edwards, gwr ieuanc o'r Deheudir, i gadw ysgol yng nghapel yr Anibynwyr. Cyn pen y flwydd-