Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei fynwes. Clywais y gofynnwyd iddo rywbryd a oedd arno ofn marw, ac iddo ateb, 'Na ddim, ond y mae arnaf gywilydd marw.'" Symudodd ef oddiyma i Frynmelyn, ger Tremadoc. Yr oedd cyfnod y gwŷr hyn yn gyfnod llewyrchus ar yr achos.

Ail-adeiladwyd y capel yn 1853—4, pryd y cytunwyd â John Griffith Llanfair i newid mesur y tir o 52 llath wrth 18 i 39 llath wrth 24. Gadawai hyn yr arwynebedd yr un, sef 936 llathen sgwar. Arwyddwyd hyn gan Thomas Williams y pregethwr, yr hwn oedd erbyn hynny yn trigiannu yma, a chan Evan Owen. Amseriad y brydles, Medi 1, 1853. Ni wyddis mo'r draul, neu a oedd dyled yn aros o'r blaen. Swm y ddyled yn cael ei nodi yn yr ystadegau yn gyntaf oll ar gyfer 1855, sef £100; yn 1856, £80; yn 1857, £55; yn 1858, £35; yn 1859 y ddyled wedi ei thalu. Lle yn y capel i 176. Gosodid yn 1854, 159. Cyfartaledd pris eisteddle, 6ch. Arian y seti am y flwyddyn, £5 12s., yr hyn sy'n £1 12s. 6ch. dros ben, wedi eu talu feallai am y flwyddyn o'r blaen, neu ynte fod rhyw ddirgelwch arall wrth y gwraidd. Nifer yr eglwys, 51. Y casgl at y weinidogaeth, £7 1s. Yr oedd taflen 1854 am ddechreu'r flwyddyn honno, sef Ionawr, a dywedir ynddi fod yr adeiladu heb ei orffen.

Bu Richard Roberts Cae'rgors farw yn 1858. Yr ydoedd ef yn flaenor ym Meddgelert pan symudodd i'r eglwys yma, oblegid ei bod yn nes i'w gartref. Ar farw Richard Williams yn 1853 y digwyddodd hynny, ac y galwyd yntau yn flaenor yn ei le. Dichon y bu rhyw gymhelliad arno i symud yn yr amgylchiad yma. "Siaradai Richard Roberts am bethau mawr y byd tragwyddol, fel pe buasai yn un o breswylwyr y byd hwnnw. Yr oedd ei dystiolaeth am fawrion bethau Duw yn fwy fel eiddo llygad-dyst nag fel un wedi darllen am y pethau hynny. Byddai Rhisiart yn syrthio i iselder meddwl mawr. Edrychai fel y prennau ffrwythau yn Ionawr. Ond pan elai tymor ei bruddglwyf heibio, byddai perarogl blodau yn codi oddiar ei weddiau" (Drych, Awst 21.) Edrydd Carneddog am dano ynghanol prysurdeb cynhaeaf gwair yng Nghaergors yn gorchymyn i'w holl deulu fyned allan i dyrru'r gwair o flaen gwlaw. Eithr pan oedd efe'n tacluso'r das, beth welodd yn y weirglodd ond pawb ohonynt mewn hwyl cân a gorfoledd. Enynnodd y tân ynddo yntau, ac ymaith âg ef tuag atynt dan neidio a moliannu, a chan waeddi'r geiriau,—"Mae'r afael sicraf fry." Yr oedd