ganddo ddawn i gynghori yn gryno ac awchlym. Edrydd Mr. D. Pritchard am dano yn cynghori merched ieuainc yn yr eglwys, ac yn sylwi fod yr ŵyn weithiau yn clafrio, cystal a'r defaid. Ac eglurai fod dau fath ar glafr, y gwyn a'r melyn; a bod y clafr melyn yn haws dod o hyd iddo, ac am hynny y gellid cymhwyso'r feddyginiaeth mewn pryd. Ond am y clafr gwyn, fod hwnnw yn lladd cyn dod ohono i'r golwg. Nododd bechodau y clafr gwyn, gan rybuddio rhagddynt. "Cryf yn yr ysgrythyrau," ebe Mr. Edward Owen, "miniog yn erbyn drwg, mawr mewn gweddi." Yr oedd gan Richard Roberts eiriau fel brath cleddyf ar dro, pan dybiai efe fod galw am danynt. Os elai ambell un weithiau braidd yn hyf yn yr eglwys, gan amlygu tuedd i chwennych y blaen, tynnai Richard Roberts ef allan fymryn yn yr ymddiddan yn y seiat. "Fuaset ti yn leicio cael dy godi yn flaenor?" "Na, nid ydw i ddim ffit." "Yr oeddwn innau yn meddwl yr un fath a thi. Ond ni welais i mo'r iar un amser yn gwyro na byddai ei golwg hi ar ben y trawser." Cymeriad anuwiol oedd Neli Richard. Yn ei gwaeledd ni thalai ddim ond i Richard Roberts ddod yno i weddïo. Yntau yn dechre ymddiddan â hi. "Os cafi fendio," ebe Neli, "mi gwelir fi'n neidio yn y capel yna gyda'r ucha." "Gwelir, mi wn," ebe yntau yn o sychlyd. "Ni phegiais i 'run mochyn erioed, weldi Neli, na wichiai o'i egni." Mendiodd Neli, a dychwelodd fel yr hwch i'w hymdreiglfa yn y dom. Yr oedd Richard Roberts yn hanner brawd i'r hen flaenor, William Parry Capel Uchaf (Clynnog), ac yn daid i'r Parch. R. R. Morris Blaenau Ffestiniog. Gwnel Mr. Morris y sylw yma am dano: "Pan oedd fy nhaid yn agos i angeu, aeth Thomas Williams (y pregethwr) ato, a gofynnodd iddo a gaffai weddïo dipyn wrth ymyl y gwely. 'Na, dim gweddio yma heddyw,' oedd yr ateb. 'Yr wyf wedi gweddïo digon. Y mae'r storm drosodd heddyw, ac y mae'r tŷ wedi ei doi ar y tywydd teg.'" (Edrycher Pentref, Beddgelert.)
Boddio golud Beddgelert—a wnae hwn,
Yn hynod o ffraethbert;
Arhosol glod i Rhisiart
Yn y byd, y bu Duw'n ei bart.—(Hywel Gruffydd).
Hydref 12, 1859, bore Mercher, Dafydd Morgan yn pregethu ar "gyflog y ddwy ochr." Amryw yn gweiddi, A oes modd newid yr ochr? Bu gwawr newydd ar yr achos y pryd hwnnw. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 469). Rhif yr eglwys yn 1858, 57; yn 1860, 103; yn 1862, 96; yn 1866, 86.