Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn 1863 y dewiswyd Robert Jones a Francis Roberts yn flaenoriaid ar fin ymadawiad John Reade i'r Baladeulyn yn 1864. Ni byddai John Reade fyth yn neidio'r clawdd, ebe Mr. Edward Owen, heb edrych beth oedd yno yr ochr arall. Yn hynny yr ydoedd braidd yn wahanol i William Jones; a bu ef yn gryn gymorth i gadw William Jones yn y tresi. (Edrycher Baladeulyn).

Daeth William Jones yma o sir Feirionydd yn 1865 i gadw ysgol. Ymadawodd i'r America yn 1867, lle'r adnabyddir ef fel William Machno Jones. Sefydlodd y Gobeithlu yma. Bu'n dra gwasanaethgar yn y cylch. Yr ydoedd, hefyd, yn bregethwr, sef yr ail o'r enw yn y lle. Yr ysgolfeistr cyntaf yn y lle, ebe Mr. Edward Owen. Bu'r Parch. W. Williams Rhostryian yma fel ysgolfeistr, ac ymroes i lafur gyda'r plant ar y nosweithiau. Moses Jones o Benmachno ydoedd, yntau hefyd, yn ysgolfeistr a phregethwr, ac a fu'n llafurus gyda chyfarfodydd y plant. Efe ydoedd. y cyntaf i gynnal cyfarfod gweddi gyda'r plant. Oddeutu dwy flynedd fu ei arosiad ef yma.

Yn 1866 adgyweiriwyd a helaethwyd y capel y drydedd waith ar draul o £131 10s. Gwnawd seti i 284. Talwyd y ddyled erbyn 1873.

Symudodd Robert Jones oddeutu 1867 i Lanaelhaearn. Cylch bychan, ond ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Ar symudiad Robert Jones y dewiswyd Griffith Francis Clogwyn Brwnt ac Edward Owen. Bu Edward Owen yn arwain y gân am rai blynyddoedd. Yn 1873 symudodd Edward Owen i Bentrecelyn ger Rhuthyn. Efe yw tad y Parch. Pierce Owen Rhydycilgwyn.

Yn ystod haf 1876 y bu farw William Jones Llwynyforwyn, yn flaenor yma ers 1848. Brodor o Fôn a ddaeth i weithio i'r Clogwyn Coch. Disgrifir ef gan Mr. Edward Owen fel dyn bywiog, fymryn yn ffroenuchel, a'r larsia a welodd Mari erioed, ysbaid cyn ei briodi. Nwydwyllt o dymer. Gair bach am yr Hen Gorff, a byddai mewn cyffro yn y fan. Cyson yn y moddion. Eiddigeddus dros ddisgyblaeth. Bu'n arolygwr ysgol am yn agos i 30 mlynedd. O'i le yn y dosbarth y dechreuai'r ysgol neu unrhyw orchwyl arall perthynol iddi. Hyddysg yn y Beibl a dawn i gymhwyso ei wersi. Cerddor go led wych a chanwr da. Yn llai galluog na Richard Roberts a mwy hyawdl. "Methodist o'r Methodistiaid oedd