William Jones. Methodus ydwyf fi a Methodus a ddylai pawb fod. Os digwyddai camweddu o rywun, y dymuniad fyddai am beidio mynegi i William Jones. Yr oedd gwynepryd William Jones yn disgleirio gan burdeb. Yr oedd yn hynod hoff o Gurnall. Treuliai lawer iawn o'i amser i ddarllen a myfyrio y Beibl." (Drych, Awst 28). Dyma sylw Mr. R. R. Morris amo: "Bum yn ei wylio yn dod i lawr i'r capel ar foreuau Sul gannoedd o weithiau ar letrawa Cefn Cawellyn, ar hyd y llwybr troed serth sydd yn dod o Lwyn y forwyn i fawr. Deuai mor gynnar, a deuai mor hamddenol!— ni cherddai ar y Sul fel ar ddyddiau eraill. Efe am flynyddoedd oedd yn cyhoeddi, ac ni chlywais ei hafal. Yr wyf yn ei gofio unwaith yn cyhoeddi fel hyn: 'Bydd Dewi Arfon yma nos Sadwrn yn cadw Cyfarfod Llenyddol, a bydd y Parch. David Jones Clynnog yn pregethu bore Sul.' Gofalai am wneud gwahaniaeth rhwng y bardd a'r pregethwr. Dyn da iawn a blaenor rhagorol oedd William Jones."
Y mae enw Thomas Williams wedi ei gysylltu yn anatodol â Rhyd-ddu. Gwelwyd ei fod yma ers 1853, beth bynnag am gynt. Y rheswm am ei gysylltiad â Rhyd-ddu ym meddwl y wlad yn ddiau ydyw, am ei fod yma yn ystod diwygiad 1859. A'r pryd hwnnw fe fflamiodd allan yn odiaethol, ac o fod yn seren o'r drydedd neu'r bedwaredd radd, fe dywynai yn nychymyg gwerin gwlad megys seren o'r maintioli mwyaf, Brodor o sir Fflint ydoedd, mwnwr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd ei ddull ysgafnaidd yn nodweddiadol o'r sir ac o'r alwedigaeth. Dywed Mr. D. Pritchard iddo gerdded lawer gwaith gyn belled ag Aberdaron ar ol gorffen ei lafur am yr wythnos, gan gyrraedd yn ol yn brydlon at ei waith erbyn dydd Llun, a'r gydnabyddiaeth yn brin ddigon i dalu'r draul ar ei esgidiau. Y mae gan Carneddog y nodiad yma amo: "Yr oedd yn bur gymeradwy. Hoffid ei ddull plaen a gor-wresog. Pan yn canlyn John Jones Talsam ar daith pregethu un tro, dy- wedodd rhywun mai Thomas Williams oedd yn twymno'r popty, a John Jones yn rhoi'r bara i mewn a'u crasu. Wrth waeddi 'Gogoniant' ar uchaf ei lais un tro ym Mheniel, fe dorrodd allan,- 'Be' ydi rhyw ditw o air fel y glory 'na sy gan y Saeson, wrth ein gair ardderchog ni-' Gogoniant!' Yna slyriai ef yn hir deir- gwaith, nes oedd y lle yn diaspedain. Cyhoeddodd lyfryn bychan o'i hymnau yn dwyn y teitl, Fy Myfyrdod. Cafodd ganmoliaeth Dewi Arfon, fel hyn: