Llanberis, oddiar II. Timotheus ii. 8. Y bregeth gyntaf yn y capel newydd gan H. Rawson Williams, Awst 10, 1890, am ddau y prynhawn, oddiar Luc x. 17, 18. Am chwech yr hwyr efe a bregethodd oddiar I Ioan iii. 2. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar y nos Fawrth a'r Mercher dilynol. Nos Fawrth am 7, dechreuwyd gan Hugh Pugh Penygraig, a phregethwyd gan J. Puleston Jones oddiar Luc xiv. 15 a David Williams Cwmyglo oddiar Ioan xix. 19. Yr ail bregethwr a gynlluniodd y capel. Traul y capel, £721.
Yn 1889 y bu farw Griffith Francis, blaenor er 1868. Mewn coffhad am dano yn y Cyfarfod Misol, Rhagfyr 26, fe ddywedwyd y bu "am gyfnod maith yn ei ffordd ddirodres ei hun yn un o'r blaenoriaid ffyddlonaf." Sylw Mr. R. R. Morris arno: "Bu'n fawr ei sel gyda'r achos. Yr oedd yn wr lled wych am sylw yn y seiat. Yr wyf yn ei gofio yn dweyd fwy nag unwaith yn y seiat,—Y mae eisieu i ni ddod i'r bregeth y Sul fel y bydd y bobl yn mynd i'r farchnad i brynnu cig, ac yn dychwelyd gyda phawb ei bisin—pawb ei bisin—pawb ei bisin!" Dewiswyd W. T. Williams Brongwyrfai yn 1890, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol y flwyddyn ddilynol. Owen Eames a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol yn 1894.
Yng Nghyfarfod Misol Tachwedd 5, 1894, fe geir cofnod i'r perwyl fod Syr E. W. Watkin, A.S., yn ymddiosg o'i hawl i ddarn tir ynglyn â'r capel a fu yng ngwasanaeth y capel ers 60 mlynedd, ond ag oedd a thywyllwch ar yr hawl iddo. Sef y darn tir y cafwyd prydles arno yn 1831.
Yn 1896 rhowd galwad i Mr. R. W. Hughes, yr hwn a ddaeth yma o Breswylfa, Llanberis. Yn 1897 prynnwyd tŷ gweinidog am £425. Yn 1899 ymadawodd Mr. R. W. Hughes, gan dderbyn galwad o Park Hill, Bangor.
Yn 1900, rhowd galwad i Mr. Isaac Davies, yr hwn a ddaeth yma o Glynceiriog. Ymadawodd i Frynrhos, Ionawr 8, 1903. Yr arolygwr cyntaf, wedi dechre cynnal yr ysgol yn y capel, oedd Dafydd Roberts y blaenor. Bu'n arolygwr hyd nes yr ymfudodd i'r America yn 1848, wedi gwasanaethu'r swydd am 22 flynedd. William Jones Llwynyforwyn a fu'n arolygwr am yn agos i 30 mlynedd. Sion Michael Llwynyforwyn fedrai drin ei