ddisgyblion yn rhwydd fel y mynnai. Y mae Mr. Edward Owen yn eu henwi. Daw eu hysbrydion i fyny gyda'u henwau: Dafydd Jones Drws y coed, John Samuel Hafoty, Huw Ifan Bryn mwdwl, Twm y cloc, Robin Cwmpowdwr, Sion y bugail, Wil Bryn mwdwl. Ar ei ddewisiad yn ysgrifennydd i'r ysgol, sef oedd hynny, yn 1853, y cafodd Hugh Sion Robert Ellis ras i fod yn ffyddlon. Rhoes ef drefn a dosbarth ar gyfrifon yr eglwys. Yn 1853 yr oedd nifer yr ysgol yn 116, 11 o athrawon a 7 o athrawesau; yn 1865, y nifer yn 141, 16 o athrawon a 5 o athrawesau. Hugh Jones, y mae'n deg dweyd, y geilw ef ei hunan yn y llyfr cyfrifon. Robert Jones fu'r ysgrifennydd o 1859 hyd 1865. Morris Evans y Siop isaf a fu'n drysorydd am flynyddoedd hyd nes yr ymadawodd i Dalsarn yn 1877. Elai bob Sul drwy'r ysgol gyda'i flwch pren, a'i wên ar ei enau. Os y ceid ambell un yn o gyndyn i ddodi cwein yn y blwch, ysgydwai Morris Evans y blwch yn ei ŵydd ef, nes y clywid y pres yn tincian dros yr ysgol i gyd, a phawb yn troi i edrych y ffordd honno, a'r wên yn para o hyd ar wyneb Morris Evans. Os na byddai un ysgydwad ar y blwch yn ddigon, ysgydwid ef drachefn gan Morris Evans, a thrachefn os byddai eisieu, a deuai y cwein coch allan o'r diwedd, neu benthycid ef os byddai raid, ac elai Morris Evans ymaith gyda'r wên yn amlycach nag erioed ar ei wyneb braf. Mae'n eithaf tebyg mai'r unig athrawon ar y dechre yn y Planwydd bach a Bronfedw uchaf ydoedd Sion Prisiart a Sion Robert Ellis, a'r cyntaf yn unig hwyrach ar y dechre cyntaf. Pan ddaeth yr ysgol i Fronfedw Ann Evans, fel y gelwid y tŷ, ceid yn athrawon, Rhys Williams, Hugh Jones Ty'n y ceunant ac Ann Evans. Richard Roberts Cae'rgors a fu'n hynod o selog gyda'r ysgol wedi dod ohono i Ryd-ddu. Ystyrrid Edward Owen yn fath ar Gamaliel, ag y teimlid yn falch fod wedi eistedd wrth ei draed.
Bu yma rai cymeriadau go neilltuol ymhlith yr aelodau. Sion Michael bach Llwyn y forwyn, oedd fawr ei wanc am y nosweithiau llawen gynt. Dod adref ar un tro o noswaith lawen dan ddylanwad diod. Glynodd draenen yn ochr y gwrych ynddo. Dyna hi'n ffrwgwd rhwng Sion a'r ddraenen. Po fwyaf gurai Sion ar y ddraenen, mwyaf yn y byd y pigai y ddraenen Sion. Ar ganol yr ymladdfa wele bigiad, nid yng nghnawd Sion, ond yn ei gydwybod. Yr ydoedd yn ymladd ar ddydd Sul! Dyna Sion. adref chwap. Troes Sion allan yn ddyn newydd. Profodd y ddraenen yn ei gnawd, nid yn gennad Satan i'w gernodio, ond yn