weinidog Duw i'w argyhoeddi o bechod. Dechreuodd ddiolch i Dduw am beidio â'i ddamnio am gwffio gyda'r ddraenen ar ddydd Sul. Dyna Sion Prisiart wyllt, filain, wedyn. Fel yr oedd Sion yn cludo cawellaid o datws ar ei gefn o Fronfedw, a'r bwced ar ben y gawell, wele hwnnw yn cwympo i lawr yn y man. Yr oedd Sion o dymer ry filain i ddodi ei faich i lawr, a dodi'r bwced yn ol, a pha beth a wnaeth ond cicio'r bwced o'i flaen yr holl ffordd adref! Milain i'r eithaf! Er hynny, gwr mawr mewn gweddi y cyfrifid Sion. Pan oedd Edward Owen yn hogyn pedair oed, mawr yr argraff a rowd ar ei feddwl gan yr hyn a glywai am Sion Prisiart ar ei farw-ysgafn. Yr hen ddyn a'r dyn newydd oedd yn ymladd yn ofnadwy ynddo am yr orsedd. Sion yn methu yn glir a chael ei hunan ar y Graig. Ar y Sul olaf iddo, pa ddelw bynnag, ac yntau bellach ar ei derfyn,—a holi mawr yn yr ardal pa fodd yr oedd yr ymladdfa fawr yn troi gyda Sion Prisiart,—wedi bore o ymladd creulon, a'r gelyn yn hyf iawn, wele Sion, tua dau ar y gloch prynhawn, yn torri allan mewn bloedd o fuddugoliaeth,— Mae fy nhraed ar y Graig!' Sul cofiadwy fu hwnnw i Edward Owen fach am lawer blwyddyn i ddyfod. A gwr llawn o gariad oedd Sion Jones, mab Sion Prisiart. A gwr ffyddlon, a gwr mawr mewn gweddi, oedd Thomas Roberts Drws y coed.
Hynod ymhlith y gwragedd oedd Ann Evans Bronfedw. Dan bregeth Ebenezer Morris yn llofft hen gapel Beddgelert, pan ydoedd efe yn dychwelyd adref o sasiwn Caernarvon, ar ol ei oedfa fawr yn 1818, y cafodd Ann Evans argyhoeddiad. Aelod yn y Waen fawr ydoedd hi nes i'r achos ddod i'w thŷ. Yn wir ddiacones. Yn y tywydd oer hi a ddeuai a mawnen gyda hi i'r tŷ capel. Byddai wedi ei chynneu yn y Planwydd bach ar y ffordd yno, fel y byddai yn wresog yng ngrât y tŷ capel erbyn y deuai y pregethwr yno. Pwysid ar ei barn mewn achosion o ddisgyblaeth. Addfed ei phrofiad. Yn myned yn fwy nefolaidd at y diwedd. Yn tebygu i Abraham mewn lletygarwch ac i Dorcas mewn haelioni. Hi a fu farw Gorffennaf 18, 1860, yn 83 oed. Dyna swm yr hyn a ddywedir am dani gan Thomas Williams (Drysorfa, 1862, t. 108). Llond ei chalon o gariad at yr achos, ebe Mr. Edward Owen. Merch iddi hi ydoedd gwraig y Parch. William Jones, a chyda'r fam neu'r ferch y lletyai'r pregethwyr yn wastad. Yn ei manylrwydd yn ymylu ar fod yn ddeddfol. Plant ac eraill â'i harswyd arnynt. Yn dyner yr un pryd. Adroddir am y ferch yn rhoi sofren i gwsmer