ag oedd wedi rhedeg i gryn ddyled yn y siop, er mwyn iddo ei thalu yngwydd y fam. Jane Williams, gwraig Richard Williams y blaenor, goruchwyliwr gwaith mwn Simneu'r ddyllhuan, a fu o gymorth i'r achos pan ydoedd wan. Arferai hi adrodd cynghorion William Roberts a Thomas Jones Amlwch. Hoff o Orffwysfa'r Saint a'r Beibl. Bu farw Gorffennaf 26, 1857, yn 56 oed. (Drysorfa, 1858, t. 314). Y gyntaf fu'n cadw'r tŷ capel oedd Elin Rolant, gwraig weddw. Athrawes ar enethod. Selog gyda'r achos. Ar ewyllys da y gwrandawyr y cedwid hi gan mwyaf, ac felly hefyd ar un adeg y cedwid pregethwyr. Deuai hwn ac arall a mawn neu ymborth neu bethau angenrheidiol eraill i'r tŷ capel yn rhodd. Hen ferch dduwiol oedd Elin Jones Llwyn y forwyn. Dosbarth o enethod ganddi yn y sêt o dan y cloc. Athrawes am 30 mlynedd. Dywed E. E. Owen am dani yn y Drych: "Dywedai Neli wrth fy mam ar un adeg, 'Doli,' meddai, 'mae Elis [ei brawd] wedi gwerthu'r llo, weldi, ac wedi cael deg swllt arhigian am dano. Mae'r arian yn y siwg ar silff y dresal, ond 'dwn i ar y ddaear be' i neud efo nhw; nid oes gin i eisio dim byd—mae gin i ddigon o bob peth.'" Chwaer oedd Neli i Mari, gwraig William Jones Llwyn y forwyn. A dywedir ymhellach: "Aeth Neli a Mari Jones i Baradwys, a bydd eu coffadwriaeth a'u henwau yn berarogl, ac yn addurn a gogoniant i hen ardal Rhyd-ddu hyd byth." Modryb Ann, foliannus yn y moddion, oedd athrawes ymroddedig ar ddosbarth o enethod. A Doli Owen yr un modd. Am bob un o'r athrawesau hyn fe allesid dweyd, ebe Mr. Edward Owen, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth."
Rhif yr eglwys yn 1900, 136.