Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENIEL, NANTMOR[1]

Rhowd eisoes yn hanes eglwys y Pentref wreiddiau'r hanes ym Mheniel. Dros ben hynny, gellir olrhain peth ar hanes yr ysgol Sul yma. Sefydlwyd hi yma gan Robert Roberts Clogwyn, John Prichard Corlwyni, Richard Williams Cwmbychan, W. Williams Cae Ddafydd. Ym Mwlch Gwernog, tŷ Ann Dafydd [Owen Gruffydd a ddywed Gruffydd Prisiart a Charneddog] y cychwynnwyd. Tŷ bychan, isel, llawr pridd, a dim ond un ffenestr fechan i ollwng y goleuni i mewn iddo. Yn y nos y cedwid yr ysgol ar y cyntaf, a cheid goleu canwyllau brwyn. Dodid y canwyllau rhwng gwiail cawell wedi ei droi wyneb i waered. [Sef cawell marchnata. Pwysent ar y cawell, fel y suddai i mewn i'r pridd. Carneddog.] Gofalid am y goleu gan ryw un ar y tro. Eisteddid yn gylch am y cawell. Nid yn hir y buwyd nad oedd y lle wedi myned yn rhy gynnwys, ac yna rhennid yr ysgol rhwng amryw dai.

Dilynir hanes yr ysgol oddiyma ymlaen fel y ceir ef gan Carneddog. Cyfarfu'r rhan dros afon Glaslyn yn Ninas Ddu; gwaelod Nantmor ym Mhen y groes; blaen Nantmor yn y Corlwyni; a'r gweddill ym Mwlch Gwernog. Ni fu cystal llewyrch ar yr ysgol wedi ei rhanu fel hyn, a thrwy mai yn y nos o hyd y cynhelid hi, a'r fro mor wasgaredig, a'r ieuenctid mor wyllt a gwamal, syrthiodd i ddirywiad. Penderfynu ei chynnal mewn rhyw un lle cyfleus, os gellid ei gael. Yn y cyfwng yma, priododd Richard Gruffydd y Carneddi gyda Chatrin, merch Robert Hughes y Tylymi, ac aethant ar eu taith briodasol ar draed dros y mynyddoedd i sasiwn y Bala, a chafodd Richard Gruffydd gyfle i siarad â Thomas Charles drwy gyfryngdod ei gyfaill, Robert Jones Rhoslan. Yng nghwrs yr ymddiddan cydsyniodd Richard Gruffydd i agor ei dŷ i'r ysgol, ar yr amod fod Charles yn dod i'w sylfaenu, drwy egluro'r rheolau a chynghori y deiliaid. Y Sul cyntaf wedi hynny, dechreuwyd cynnal yr ysgol yn y Tylyrni. Er mawr siomedigaeth, methodd. gan Charles â dod, ac anfonodd yr hen gynghorydd, Rolant Abram o'r Ysgoldy yn ei le. Yr oedd y Tylyrni yn ddigon mawr i gynnwys tua chant o bobl. Byddai yno Flwch y Tlodion, a byddai pawb a allai yn rhoddi ei gyfran at gael dillad gweddaidd i'r tlodion i ddod

  1. Ysgrif John Jones Tŷ capel. Ysgrifau Mr. D. Pritchard. Nodiadau gan Carneddog.