Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r ysgol. A chafodd llawer eu dilladu felly. Llwyddwyd i gael yr ardalwyr i gyd yn ddieithriad yn aelodau. Yr oedd pawb yn rhwym o ddysgu'r Deg Gorchymyn, ac arferid eu hadrodd yn rheolaidd. Wedi hynny daeth yr Hyfforddwr i gael sylw. Hefyd, canu mawl, sef canu'r un mesur drosodd a throsodd, nes y delai'r holl gynulleidfa i allu canu yn rhwydd ac o galon.

Wele ddyfyniad o gofnodion cyfarfod daufisol yr athrawon, sef y rhai cyntaf a geir ynddo: "1818, Mai 10, Arolygwr, 1; golygwyr neu athrawon y dosbarth, 14; rhai yn cael eu dysgu, 70 holl nifer yr ysgol, 85; penodau a salmau a adroddwyd, 251; adnodau y plant, 141; Hyfforddwr, 5 pennod. Symudwyd 10 o'r Testament i'r Beibl, a 6 o'r Llyfr Egwyddori i'r Testament." Wele, eto, ychydig o gofnodion Cyfarfod Athrawon 1819. "Medi 12. Holl nifer, 94. Adroddwyd yn yr ysgol ar y testyn a roddwyd ddau fis yn ol, sef Teitlau Crist, 126 o adnodau; proffwydoliaeth am Grist yn yr Hen Destament, 34 o adnodau; y cyflawniad yn y Testament Newydd, 58 o adnodau. Caed fod saith o rai yn medru darllen ac heb ddysgu'r Deg Gorchymyn. Anogwyd yr holl athrawon i ymegnïo tuag at gael pawb i'w dysgu."

Gwelodd Carneddog hen ysgriflyfr cofnodion ysgol y Tylymi, wedi ei ysgrifennu mewn dull plaen gan Robert Gruffydd y Ferlas, saer coed, taid y diweddar Robert Griffith Dinbych, a gofyn a oes rhywun a ŵyr pa le y mae yn awr? Ceir ynddo hanes cyflawn am bob dau fis yn gyson, hyd adeg adeiladu'r capel, 1829. Cynhelid cyfarfod gan yr athrawon bob dau fis, darllenid y cyfrifon yn fanwl, gwneid sylwadau ar ansawdd yr ysgol, ac yn enwedig gwneid ymchwiliad manwl a oedd pawb a allai yn dyfod i'r ysgol, gyda gofalu na byddai neb yn cael ei adael o eisieu dillad priodol i ddod iddi. Robert Roberts y Clogwyn oedd yr arolygwr hyd ei farw yn 1814. Ni wyddis pwy oedd yn y swydd o hynny hyd 1820, pryd y dewiswyd William Roberts y Clogwyn. Parhaodd ef yn y swydd hyd 1829, pryd y symudwyd yr ysgol o'r Tylymi.

Sylwa Carneddog beth ar yr hyn a wnawd yn y Tylymni heblaw gyda'r ysgol. Yn fuan fe ddechreuwyd pregethu yno hefyd, sef ar brynhawn Sul. Gwnaeth Robert Gruffydd bulpud derw cadarn, a gosodwyd ef mewn congl wrth ffenestr llawr y tŷ. Dyma rai o'r hen bregethwyr fu yn y lle: Dafydd Cadwaladr, Ffoulk Evans,