Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lewis Morris, Isaac James, Charles Jones, James Hughes o Leyn, John Peters o'r Bala, Evan Ffoulk Llanuwchllyn, Rolant Abram, Griffith Solomon, John Thomas Llanberis, Robert Dafydd Brynengan, Dafydd William Brynengan, Robert Jones Rhoslan, Gruffydd Sion Ynys y Pandy, Robert Griffith Dolgelley, Richard Jones y Wern, Robert Sion Hugh, Moses Jones, John Williams Llecheiddior, Cadwaladr Owen, William Morris Cilgerran, Daniel Jones Llanllechid, John Elias, Michael Roberts, Dafydd Rolant, Robert Thomas Llidiardau, John Jones Tremadoc, John Jones Llanllyfni, Dafydd Jones, Dafydd Jones Beddgelert, Henry Rees, a'r olaf a fu yma, Robert Owen Apostol y Plant. Bu Robert Owen yn dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd yn y fro pan yn llanc. Ni chafodd yr un o'r pregethwyr hyn fwy na phedwar swllt a chwe cheiniog o gydnabyddiaeth am yr oedfa, llawer driswllt, deuswllt yn aml, a swllt yw y swm lleiaf a dalwyd i'r hen ffyddloniaid pybyr.

Yn 1829, Mehefin 9, y dechreuwyd adeiladu'r capel cyntaf. A Pheniel y galwyd ef. Gosodwyd y seti Chwefror 1, 1830. Cadwyd cyfrifon manwl o'r adeiladwaith. Dyma enghraifft: "Talwyd i Robert Thomas am wneud y muriau, 463 llath, 0. 6, yn ol 1s. 1g. y llath, £25 1s. 7g. Toi 214 llath, 8. 3, yn ol 6ch., £5 7s. 5c. Plastro 365 llath 5. 5, yn ol 4c., £6 17s." Yr holl fanylion wedi eu cofnodi yn y dull yma. Y cyfanswm am adeiladwaith y capel, £163. Eithr yr oedd eisieu tŷ capel, ystabl, gardd, a gwaliau oddiamgylch, fel yr aeth yr holl draul yn £250. Nid oedd dim mewn llaw gogyfer a'r draul. Darfu i wyth o bersonau ymrwymo rhoi benthyg y swm gofynnol ar log, yn ol 4 y cant. Ymhen 25 mlynedd, bu raid ail doi ac ail wneud amryw bethau ar draul o £50. Casglwyd y swm gofynnol rhag blaen gan bobl ieuainc yr ardal. Deffrodd hynny o ymdrech ysbryd cyfrannu yn fwy yn yr ardal. Bu'r ystad yr oedd y capel wedi ei adeiladu arni yn y Chancery. Prynnwyd capel a'r ychydig dir o'i gwmpas am £200 3s. 3c., pan yr oedd y brydles ar ben. Hysbyswyd yng Nghyfarfod Misol Hydref, 1866, fod hynny wedi ei gyflawni. Ar gyfer 1867 y mae amseriad y weithred, ac yn y flwyddyn honno rhowd caniatad i helaethu'r capel. Tynnwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un arall yn ei le, ynghyda dau dŷ cyfleus yn ei ymyl yn 1868. Traul yr holl adeiladau, £1450, gan gynnwys y tir. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd ym Mheniel, Mehefin, 1874, fod y ddyled erbyn hynny wedi ei thynnu i lawr i £772. Ni thelid llog ar y pryd ond