Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dros £100. Dywedid fod o leiaf £200 wedi eu hebgor ers pan yr oedd y gymdeithas ddilog wedi ei sefydlu. Nid oedd poblogaeth yr ardal ond oddeutu 160 dros 15 mlwydd oed. [Mae'n werth coffhau y gwasanaeth gwirfoddol gwerthfawr a wnaeth W. W. Parry Penygroes, ac wedyn Glan Meirion, a Chadwaladr Owen Gelli'r ynn gyda'r Gymdeithas Ariannol yn y fro, y cyntaf fel ysgrifennydd, a'r olaf fel trysorydd. Coronwyd eu hymdrechion, a gwnaed lles dwbl drwy'r gymdeithas. Mae'n parhau eto. Carneddog.]

Yn 1833 y sefydlwyd yr eglwys. Eithr ni bu nemor gynnydd hyd 1836. Y diwygiad dirwestol a barodd i'r achos hybu. Ymgymerodd yr eglwys yn aiddgar â'r diwygiad hwnnw, a llwyddwyd i gael pawb drwy'r ardal yn ddirwestwyr. Ymunodd y rhan fwyaf o'r rheiny â'r eglwys. Aeth mwyafrif yr ardalwyr y pryd hwnnw yn grefyddwyr, ac y mae y wedd honno ar bethau wedi parhau.

Prynhawn dydd Mawrth, Hydref 11, 1859, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan Peniel. Wrth nesau ohono at y capel, goddiweddodd Marged Williams, a gofynnodd iddi, "I ble 'rych i'n mynd?" "Mynd i'r capel, weldi." "Pwy sydd yna heddyw?" "Chdi, machgen i, ac yr ydw i wedi gweddio am iti gael help i bregethu hefyd." Eisteddai'r hen wraig yn y sêt fawr, ac ar ryw bwynt yn y bregeth, hi gododd ar ei thraed, a chan chwyfio'i ffon, dywedai wrth y pregethwr, "'Roeddwn i'n dweyd wrthyt mai fel hyn y byddai hi, ond 'doeddwn i?" Wmphra William oedd un o'r dychweledigion. Rhoes hwn yn ystod ei fywyd byrr ogoniant lawer i'w Arglwydd, ac erys ei goffadwriaeth yn berarogl. Un arall o'r dychweledigion a breswyliai yng Ngardd llygad y dydd, sef Thomas William wrth ei enw. Nid oedd ei fuchedd flaenorol yn ateb i'w drigfan. Wrth ei weled yn arddelwi crefydd, torrodd un hen wraig allan, "Diolch! dyma garreg sylfaen teyrnas y cythraul ym Mheniel wedi ei chwalu." Cafodd Robert Williams Aberdyfi oedfa gofiadwy ym Mheniel ar y tŷ ar y graig yn amser y diwygiad. Mewn oedfa yma ar y Sul, lediodd David Pritchard Pentir bennill o'i gyfansoddiad ei hun, a chanwyd llawer ammo yr adeg honno,—

Mae'r arfaeth fawr dragwyddol
Yn gweithio'i ffordd ymlaen,
A miloedd o blant Cymru
Yn seinio newydd gân;