Mae rhai yn gwaeddi, 'Achub,' |
Pennill y canwyd llawer arno ydoedd hwn :
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Daeth Iesu Grist i'n daear ni;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i'r lan i Galfari;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i lawr i waelod bedd;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Y daeth i fyny'n hardd ei wedd.
(Cofiant Dafydd Morgan, t. 466.) Ar ddydd diolchgarwch, fe ddywedir yn y Drysorfa (1860, t. 62), y torrodd y diwygiad allan yn rymus iawn. Rhyw frodyr lled ddiddawn oedd yn gweddïo, fe ddywedir; ond yr oedd y fath ysbryd gweddi wedi disgyn arnynt fel yr oedd y gynulleidfa wedi ei dal â syndod. Yr oedd tua 30 wedi dod i'r seiat, sef erbyn dechreu'r flwyddyn, fan bellaf. Rhif yr eglwys Ionawr, 1854, 42; yn niwedd 1856, 65; yn 1858, 81; yn 1860, 105; yn 1862, 106; yn 1866, 95. Dywedir na ddarfu i nemor o had yr eglwys a gyffrowyd y pryd hwnnw wrthgilio.
Y blaenoriaid oedd yn y swydd pan sefydlwyd yr eglwys yma oedd John Prichard y Corlwyni, a fu farw yn 1836; Richard Williams Cwmbychan, a fu farw yn 1840; William Roberts y Clogwyn, a fu farw Mawrth 17, 1862, yn 67 oed. Am John Prichard y Corlwyni, tystiolaeth pawb a'i hadwaenai oedd fod yr achos iddo ef yn wir ofal calon. Efe oedd y trysorydd a'r ysgrifennydd, fel y digwyddai gynt nid yn anaml. Gydag ef, beth bynnag, fe weithiau hynny'n dda, gan y gwnae bob diffyg yn y derbyniadau i gyfarfod y taliadau i fyny ei hunan. Llwyddodd i gael pregethu cyson yn yr ardal bob Sul am 30 mlynedd cyn adeiladu capel yma, sef yn y Tylymi fynychaf, lle cynhelid yr ysgol hefyd. Tan ofal John Prichard y bu'r ysgol am amser maith. Gwr tawel, gweithgar, a phwysau ei gymeriad yn peri iddo gael ei barchu gan bob dyn. (Edrycher Pentref.)
Daeth William Roberts y Clogwyn i'r ardal drwy briodi merch Robert Roberts y Clogwyn. Brodor o Ddolyddelen ydoedd. Efe