wneid pont y Cyrnant dros y Wyrfai. Rhyd a sarnau oedd yn y lle yn flaenorol. Yr oeddid wedi tynnu y sarnau a chymeryd y cerryg i wneud pont, a dodwyd planc am y pryd dros yr afon. Tibbot yn nesu, ac, fel arfer, dan ganu. Dywedwyd gan rai o'r gweithwyr am droi y planc hwnnw pan fyddai'r hen bregethwr yn myned drosto, a rhoi dowcfa iddo. Pan gyrhaeddodd yntau i'r lle, gan ameu rhywbeth yn ei galon, mae'n debyg, rhoes swllt i'r dynion i'w rhannu rhyngddynt, gan ychwanegu fod yn ddrwg ganddo na feddai chwaneg i'w roi iddynt. A dywedai wrthynt ei fod i bregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd y noswaith honno, a gwahoddai hwy yno. Addawsant ddod, a rhowd awgrym i'r ddau lanc i beidio ymyrraeth â'r planc. Aeth pawb ohonynt yno, a dyna'r pryd yr argyhoeddwyd Robert Dafydd Luke, y soniwyd am dano yn yr Arweiniad ynglyn âg adeiladu tai ar y cytir. Ymhob ffair agos cyn hynny herid ef i ymladd gan ryw fwli neu gilydd, a hynny oblegid ei faint a'i nerth, heb fod ei hunan o duedd ymladdgar. Rhoes un gurfa ar ol ei argyhoeddiad i gewryn na fynnai adael llonydd iddo ar y ffordd, ac yna fe gafas lonydd weddill ei ddyddiau.
Fel y dywedwyd, yr oedd Thomas Griffith yn dad i Ddafydd Ddu Eryri. Gadawodd y mab y Corff am Eglwys Loegr. Mab arall ydoedd John Thomas, y pregethwr o Lanberis; a mab arall eto ydoedd Humphrey Griffith (neu Thomas), un o lenorion Greal Llundain. A dichon nad y leiaf yn y teulu ydoedd Mary Thomas y ferch, a fu'n cadw'r tŷ capel cyhyd. Teulu nid anhynod. Bu Thomas Griffith, y tad, farw Gorffennaf 5, 1781, yn 64 oed. Dywed Morgan Jones y bu peth llwyddiant ar grefydd yn amser Thomas Griffith. Heblaw cynghori yma ac acw ar achlysur, Thomas Griffith a'i fab John a gasglodd ynghyd yr ychydig ddisgyblion oedd ar wasgar yn ardal Llanberis, gan eu ffurfio yn eglwys yn Llwyncelyn. Ac os oedd peth llwyddiant, yr oedd peth erledigaeth hefyd. Ffoid rhag y gelynion rai prydiau i ochr y Cefn du, a chynhelid yr addoliad yng Nghrug y brain.
Nid llai hynod na theulu Thomas Griffith, os nad, yn wir, yn llawn hynotach, a hynotach yn eu perthynas uniongyrchol â chrefydd, ydoedd teulu Thomas Evans. Nid oedd Thomas Griffith ond Thomas Griffith y cynghorwr, tra'r oedd Thomas Evans yn Thomas Evans y pregethwr, sef a arwyddoceid wrth hynny, gwr