o ddoniau nawsaidd a phoblogaidd. Daeth Thomas Evans yma o Dai'r ffynnon ym Mangor, ar ei briodas feallai, neu cynt, â merch Evan Dafydd. Bu'n trigiannu yng Ngwredog uchaf, ac wedi hynny yn Hafod oleu. Yr ydoedd yma yn gyd-lafurwr â Thomas Griffith. Pan ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai ar ol colli Thomas Griffith y daeth Thomas Evans yn swcwr i'r achos, rhaid deall hynny yn gytunol âg adroddiadau eraill diweddarach, fel yn golygu mai dyna'r pryd y cymerodd efe'r arweiniad yn lle Thomas Griffith. Y mae pob lle i gredu'r eglurhad yna. Bu ef farw Medi 4, 1788, yn 48 oed, ymhen saith mlynedd ar ol Thomas Griffith; ac er ei fod yn bregethwr poblogaidd, nid yw ei enw fyth yn cael ei gysylltu âg un lle arall heblaw y Waen. Gellir nodi mai 48 yw yr oedran a briodolir iddo gan Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119), a chan Dafydd Ddu ynglyn â'i Farwnad iddo, a chan Fethodistiaeth Cymru ar eu hol hwy; ond 46 roir yn Y Gymdeithasfa, t. 471. Yr ydoedd ei fab Evan yn wyth oed pan fu farw Thomas Griffith, a thebyg fod John yn hŷn; ac eithaf tebyg ydyw, fel y sylwyd, fod Thomas Evans yma o leiaf er adeg ei briodas. Yr ydoedd tad Dafydd Thomas yn cofio Thomas Evans yn dda. Soniai am dano fel cynllun o ddyn i'w efelychu. Ar ol dychwelyd ohono o daith yn y Deheudir unwaith, bu ymddiddan rhyngddo â John Jones, Cefn y waen, cydchwarelwr âg ef. Yn ateb i ymholiad hwnnw, fe ddywedodd mai 29s. 6ch. a dderbyniodd fel tâl am ei bregethu yn ystod ei daith o chwech wythnos. Ynglŷn â thaith a fwriadai gymeryd i'r Deheudir, fe adroddir ym Methodistiaeth Cymru ymddiddan rhyngddo â hen chwaer yn yr eglwys. Dywed Dafydd Thomas mai Malan Thomas, yr hen ferch a gadwai'r tŷ capel wedi hynny, ydoedd honno, sef merch Thomas Griffith. Petrusai Thomas Evans fyned ar y daith, am nad oedd neb arall i gymeryd gofal yr achos. Ar ei waith yn mynegi ei betruster yn y seiat, ebe Malan Thomas, "Ewch, ewch, Thomas bach, a rhowch lyfr i mi, a mi osoda'i i lawr bob peth heb fod yn iawn; a chewch 'ithau ei weld wedi dychwelyd yn ol." Wedi dychwelyd ohono yn ol o'r Deheudir, fe roes Thomas Evans hanes ei daith yn y seiat, ac yna wedi gorffen fe ofynnodd am y llyfr. "Dyma fo," ebe'r hen chwaer, "fu yma ddim o'i le-mae o'n wyn i gyd !" "Wel, yn wir," ebe Thomas Evans, "ni welais i yr un eglwys ar y ddaear o'r blaen, ac ni chlywais i ddim am yr un chwaith, wedi bod am chwech wythnos o amser heb bechu! Yn hyn yr ydych wedi tra rhagori arnaf fi!" John Pierce, Robert Jones Rhoslan a Thomas Evans,
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/30
Gwedd