Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ol Robert Evans (Trefriw) oedd y tri blaenaf yng Nghyfarfodydd Misol y sir gynt, a dywed ef fod rhai pethau yn Thomas Evans yn rhagori ar y lleill. Disgrifir ef ganddo fel "gwr o ddoniau a chymhwysterau tra helaeth, a phregethwr hynod o bwysig a chynwysfawr." Dywed hefyd ei fod mewn achosion dyrys yn fwy didderbyn wyneb na neb yn y sir, tra ar yr un pryd yr ydoedd yn wr hynaws ac addfwyn. "Ac er, yng nghyflawniad ei ddyledswydd, y byddai yn hynod o benderfynol a diblygu, byddai yn haws peidio â thramgwyddo wrtho ef na llawer." Clywodd Robert Evans ef yn dweyd nad oedd neb yn nhref Caernarvon ar un pryd a roddai gwpanaid o ddwfr oer iddo fel pregethwr. O dan ei weinidogaeth ef yr argyhoeddwyd Robert Evans ei hun. (Drysorfa, 1837, t. 154). Dyma dystiolaeth Robert Jones ei hunan am dano: "Thomas Evans o'r Waenfawr oedd o dymer addfwyn a chyfeillgar, gonest a diddichell. Yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy, ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hynny, a fyddai yn arferol o'i wrandaw. Yr oedd ei gynnydd mewn doniau a defnyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn addfedu i ogoniant. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ei ol yn niwedd ei ddyddiau, ei bod yn dawel rhyngddo a Duw mewn Cyfryngwr."

Diweddai ei einioes mewn diddanwch,
Gan dywallt dagrau diolchgarwch;
Dyma air oedd hyfryd ganddo,
Sef, "Na ddarfu i Dduw'n apwyntio
I ddigofaint (chwerw alaeth),
Ond i gaffael iachawdwriaeth;
Ynghanol glyn, angeu syn,
Y gelyn ddarfu gilio,
Fe ddwedai, "Dyma'r gair sy'n gwawrio,
Megys seren i'm cysuro!"
Dyna un o'i anadliadau,
A'i lafurus olaf eiriau.—(Dafydd Ddu Eryri.)

Eithr yr oedd dau fab Thomas Evans yn hynotach gwŷr nag yntau. Y mae cymeriad yr arwr yn dod i'r golwg yn John Evans, yr hynaf o'r ddau, debygir. Yn Llundain yr ydoedd pan y clywodd am lwyth o Indiaid Cymreig, sef hiliogaeth Madoc ap Owen Gwynedd a'i ddilynwyr, darganfyddwyr cyntefig yr America. Stori ramantus ydyw, ond rhaid ei chwtogi yma. Taniwyd John Evans gan awydd am olrhain y llwyth yma, a'u trosi i ffydd Crist. Y mae awdwr hanes diweddar Charles o'r Bala wedi darganfod dolen newydd yng nghadwen y stori. Yr oedd Charles yn Llundain yn niwedd haf 1792, sef yr adeg y cychwynnodd John Evans i'r Gorllewin, ac a'i