Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelodd cyn cychwyn, gan ymddiried neges iddo at wr yn Baltimore, sef y Parch. Lewis Richards. Mae llythyr Richards at Charles ar gael yn cyfeirio at ymweliad John Evans âg ef, ac at ei benderfyniad, er pob cais i'w atal, i fyned ar ei ymchwil arwrol. Ar ol rhai helyntion, a dilyn cwrs y Missouri am 1600 o filltiroedd, cymerwyd ef yn glaf o'r dwymyn boeth, a bu farw yn 1797. (Thomas Charles II. 128. Geninen Gwyl Dewi, 1907, t. 46).

Pregethwr anghyffredin, fel yr ymddengys, ydoedd y brawd arall, Evan Evans. Bu yntau farw Chwefror 27, 1797, sef yr un flwyddyn a'i frawd, yn 24 oed. Gallesid tybio oddiwrth ryw bethau yn ei hanes fod eofndra dychmygol yn nodwedd arno yntau, fel ei frawd. Sonir am dano yn pregethu yn yr awyr agored yn Aber-fach-awyr, pryd y disgynnodd gwlaw trwm ar y bobl ar ganol y bregeth. Torrodd yntau allan mewn gweddi, "O Arglwydd, creawdwr a llywodraethwr pob peth, dyro seibiant am ychydig amser i gynghori hyn o bobl sydd â'u hwynebau ar y byd tragwyddol." Yn y fan ataliwyd y gwlaw. Fel hyn y dywed Owen Thomas am dano: "Evan Evans o'r Waenfawr—yr hwn ni chafodd fyw ond rhyw dair blynedd wedi iddo ddechre pregethu, eithr a wnaeth, yn yr amser byrr hwnnw, y fath argraff ar Gymru, fel mai syniad y rhai callaf o'r hen bobl ydoedd, fod y fath gyflawnder o ragoriaethau gweinidogaethol ynddo, ag a fuasent yn ei godi, pe cawsai fyw a'i gynnal, i'r dosbarth uchaf o ran poblogrwydd a dylanwad ymhlith pregethwyr ein gwlad." (Cofiant J. Jones, t. 941). Ebe Robert Jones: "Evan Evans a addurnwyd â doniau ystwyth, goleu a serchiadol... Torwyd ef i lawr pan oedd y llewyrch yn fwyaf disglair." Ebe Griffith Solomon: "Evan Evans oedd fel rhyw rosyn yng ngardd yr Arglwydd. Yr oedd y dyn ieuanc hwn wedi derbyn doniau darn debyg i Elihu gynt, goeliaf fi" (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn Llanidloes yr ydoedd y flwyddyn olaf o'i oes yn ceisio adferiad iechyd. Edrydd Mr. Francis Jones o gofiant John Mills am Edward Mills y tad yn nodi allan Evan Evans fel un o'r pregethwyr mwyaf grymus ac effeithiol a glywsai erioed. Pan bregethai ar noswaith yn y dref, rhedai Edward Mills y ddwy filltir o'r fferm i'r capel, er mwyn bod yn bresennol pan roid yr emyn cyntaf allan, oblegid yr oedd y fath swyn yn y llais fel y toddai y gynulleidfa dano. Deuai rhai o ddynion anuwiolaf y dref i'w wrando. Yr oedd anhwyldeb ar ei droed, ac yn niwedd y gwasanaeth byddai ei esgid yn llawn gwaed.