at y tŷ oedd yno a wnawd, a'i gyfaddasu yn gapel, a throi gweithdy William Evans yn stabl. Capel bach" y gelwir ef ganddo ef. Adeilad cul 4 llath neu 5 wrth 6 llath neu 7 o fesur, sef y tu fewn yn ddiau, canys y mesur hwnnw a roid yn gyffredin gynt. Y tŷ, a'r stabl tucefn, wrth y talcen gogleddol, a phalis coed rhwng y capel a'r tŷ. Yn llofft y tŷ capel yr oedd gwely y pregethwr, ac yno y cedwid y tân, ac y paratoid bwyd y pregethwr, gan nad oedd lle priodol i wneud tân yn y llawr. Drws o'r tŷ i'r capel, a drws i'r capel ar yr ochr ddwyreiniol, nid nepell oddiwrth y talcen deheuol. Y pulpud ar yr ochr ddwyreiniol, gyda ffenestr yn ei ymyl ar yr ochr ogleddol iddo. Dwy ffenestr ar yr ochr orllewinol i'r capel. Meinciau ar lawr y capel, a dau blanc yn y pen deheuol yn cael eu cynnal gan gerryg. Dywed John Owen fod traul yr adeiladau ynghyda'r tir yn £150.
Yn y flwyddyn 1791, ebe Morgan Jones, y sefydlwyd yr ysgol Sul gan John Pritchard ac Evan Evans y pregethwr. Nodid y flwyddyn hon yn y lleoedd eu hunain fel blwyddyn cychwyniad yr ysgol yn Llanllyfni a Brynrodyn. Fe eglurwyd yn hanes y Capel Uchaf fod John Owen yr Henbant, cychwynnydd yr ysgol yno, yn nodi 1794 fel yr adeg y cychwynnwyd, a'i fod ef yn haeru yn bendant mai dyna'r ysgol Sul gyntaf yn Arfon. Edryched y cywrain i'r hanes ynglyn â'r Capel Uchaf a Llanllyfni. Yn Nhy-ucha'r-ffordd y cedwid yr ysgol, gan fod ysbryd erlid wedi chwythu drosodd bellach. Cynhelid yr ysgol at ddechreunos yn y gaeaf. Eid i'r goedwig i dorri pren fforchog, ebe Morgan Jones, a dodid ef ar lawr y tŷ, ar ol torri twll yn ei ben uchaf i ddal y ganwyll, ac o amgylch y pren fforchog yr eid uwchben y wers. Y mae Morgan Jones yn rhyfeddu y modd yr aeth y pren fforchog yn bren mawr erbyn yr amser yr ysgrifennai ef, gan ymganghennu ym Mhenrallt [Moriah], Salem, Rhyd-ddu a Drws y coed. Ychwanegir gan Mr. Francis Jones mai David Jones Penycae, wedi hynny yn flaenor ymroddgar, ac a fu farw tuag 1817, oddeutu 30 oed, oedd y cyntaf i ddechreu'r ysgol drwy ddarllen ynghyd a gweddi. Gweddi yn unig a arferid cyn hynny. Cyn bo hir iawn, fe sefydlwyd canghennau yng Ngherryg y rhyd, Tŷ newydd (Treflan) a Gwredog isaf.
Yn 1807 fe chwalwyd wyneb y capel cyntaf, ac estynnwyd y mur ymlaen, nes ei wneud yn gymaint ddwywaith ag ydoedd