Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r blaen. Rhowd llofft un ar bob talcen. Codwyd mur cerryg yn lle'r palis coed oedd rhwng y capel a'r tŷ. Wyneb y capel at y dehau, a ffenestr tucefn iddo, a drws ar y wyneb yn lled agos i'r pen dwyreiniol. Drws arall ar y talcen gorllewinol, gyda ffenestr ar ganol y talcen hwnnw. Ffenestr ar y cefn yn tynnu at y pen dwyreiniol. Y tŷ ar y cefn yn y pen gorllewinol, wedi ei adael fel yr ydoedd. Meinciau ar ganol y llawr, gyda sêt wrth y mur o amgylch. Yn y gongl, ar y llaw aswy i'r pulpud, yr oedd eisteddle y dechreuwr canu, sef Dafydd Hughes Pendas. Eisteddai amryw hen bobl yn yr un sêt ag yntau. Grisiau'r pulpud yr ochr agosaf i'r drws. Mesur y capel, chwe llath neu saith wrth tua deg, yr hyd blaenorol yn lled yn awr. Tra y buwyd yn adeiladu fe ddygid y moddion ymlaen yn y Tŷmawr gerllaw.

Yn adeg adeiladu'r capel fe brofwyd adfywiad lled rymus, yn bennaf ymhlith y plant a'r bobl ieuainc. Y pryd hwnnw y daeth David Jones, y pregethwr o Feddgelert wedi hynny, a David Jones Penycae, y blaenor wedi hynny, at grefydd.

Y blaenoriaid cyntaf a gofid gan John Owen oedd Thomas Jones Gwredog (Tanrallt), Harri Thomas ac Wmphra Thomas Hafod Oleu. Bu Thomas Jones farw 1809-10. Ar gefn ei geffyl yn wastad y deuai i'r capel oherwydd cloffni. Heb ddawn neilltuol. Crydd oedd Harri Thomas Bryngwylan. Brodor o Feddgelert, a'r blaenor cyntaf yno. Sais da, ac yn cael y gair o fwriadu myned yn offeiriad unwaith. Yn derbyn newyddiadur Seisnig. Heb ddawn rwydd, ar y blaen mewn gwybodaeth gyffredin. Disgyblwr llym. Disgyn ar fai fel barcut ar gyw. Yn egnïol gyda'r achos. Clywodd Dafydd Thomas ddarfod iddo ddod ag ysbryd y diwygiad gydag ef o Feddgelert, a thŷb mai dyna'r pryd y daeth yma. Gallasai fod wedi cludo y marworyn gydag ef o Feddgelert; ond yr oedd yma cyn hynny, gan y cofid ef yn flaenor gan John Owen cyn codi David Jones Penycae, a bu ef farw yn 1817, y flwyddyn y teimlwyd cyffro cyntaf y diwygiad. Bu farw rywbryd oddeutu 1820, ar ol symud ohono i'r tolldy yng Nghaeathro. (Ed- rycher Pentref, Beddgelert). Wmphra Thomas oedd wr lled. ddiddan. Dechreu'r canu cyn i David Hughes afael yn y gorchwyl. Gofyn ar goedd, "A oes rhywun yn medru'r dôn ar y pennill a'r pennill?" Cyrhaeddiadau bychain, ond ffyddlon a hynaws. Bu farw yn nechre 1814.