David Jones Penycae y cyfeiriwyd ato ynglyn â'r ysgol Sul ydoedd y cyntaf a alwyd yn flaenor ar ol y rhai a enwyd ddiweddaf. Ffyddlon, gweithgar, ac o ddawn gyflawn fel gweddiwr cyhoeddus. Gwr rhagorol, a aeth ymaith yn nhoriad ei ddyddiau.
Ni bu cymaint cyffro yn yr ardal hon yn adeg diwygiad mawr Beddgelert. Ni chyfrifai John Owen ddarfod profi mwy na godreu'r gafod yma. Eithr fe chwanegwyd Dafydd Rowland at yr eglwys y pryd hwnnw, a ddaeth mor hysbys ar ol hynny fel blaenor Moriah. Hefyd ei dad Rowland Morris ac eraill.
Yn ystod 1818-9 y galwyd Richard Owen Bryneithin a Morgan Owen Ty'n-cae-newydd yn flaenoriaid.
Cyfarfu Morgan Owen Ty'n-cae-newydd â'i ddiwedd drwy lithriad carreg yn chwarel Cefn du, Ebrill, 1820. Ymroddiad i'r achos ydoedd ei nodwedd ef. Ym mis Medi y 15 dilynol, mewn cyffelyb fodd a Morgan Owen, ac yn yr un chwarel, y cyfarfu John Hughes Ty'ntwll â'i ddiwedd, y ddau flaenor o fewn tua phum mis i'w gilydd. Tua mis o amser oedd er pan ddychwelasai John Hughes o daith o'r Deheudir, fel cyfaill i Daniel Jones Llanllechid, gan ddechreu'r odfeuon o'i flaen. Wrth hynny fe welir y cyfrifid John Hughes yn wr o ddoniau cyhoeddus.
Y llyfr cyfrifon eglwysig, Rhagfyr 1818-Medi, 1820, a gedwid gan John Hughes Ty'ntwll. Ychydig ddyfyniadau yma. Pregethwyr y Rhagfyr cyntaf, 1s. bob un, oddigerth David Williams, 6ch. Chwefror, 1819: Wm. Edwarts, 1s.; Humphrey Gwalchmai a'i gyfaill, 2s.; John Humphreys, 1s.; Richardson, 1s. 6ch.; Mr. Lloyd, 1s.; Morris Jones, 1s.; Daniel Jones, 1s. 6ch. Am y gweddill o'r amser ychydig ddetholiad. Lewis Moris, 1s. 6ch.; Moses Parry, 1s.; Robert David [Dafydd] 1s.; Peter Roberts, 1s.; Thomas Jones a'i gyfaill, 2s.; Michael Roberts, 1s. 6ch.; Griffith Salmon, 1s. 6ch.; John Wyne, 1s.; Evan Lewis, 2s.; Charles Mellish (?), 1s.; John Walters, 1s.; Benjamin a'i gyfaill, 2s. Taliadau cyffredinol eto: Cyfarfod Misol Llanrug, 8s. 4c.; cwrw, 2s.; i Owen Williams am rwymo'r Beibl, 6s.; i William Thomas am frâg, 10s. 6ch.; hops, 1s.; cwrw, 2s.; i William Roberts am frâg, 11s.; i William Thomas am frâg, 11s. 3c.; i Mary Thomas i brynu tumbler, 6ch. Rhyw 7s. neu 8s. yn y mis i Mary Thomas