Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at gadw'r tŷ dros ben yr hyn a delid am lô, brâg, etc. Rhowd hynny o gwrw a brâg a nodir yn y llyfr i lawr yma.

Yn 1822, ymhen 15 mlynedd ar ol yr helaethiad ar y capel, fe'i helaethwyd drachefn, drwy dynnu ei wyneb i lawr i'r amcan o'i ledu oddeutu 3 llathen. Ei fesur bellach oddeutu 10 llath ysgwar. Dodwyd llofit yn y cefn gyferbyn a'r pulpud, yn ychwanegol at y llofftydd yn y talcennau. Gwnaed grisiau cerryg o'r tuallan ar yr ochr orllewinol i fyned i'r llofftydd, a thynnwyd ymaith y grisiau oddifewn. Cyn helaethu'r capel yr oeddid wedi adeiladu tŷ newydd ar yr ochr ddwyreiniol, o'r un lled ac uchder a'r capel cyn ei helaethu. Gadawyd yr hen dŷ i sefyll.

Dyma'r enwau oedd ar lyfr casgl Eglwys Waenfawr yn 1823: 1. Richard Owen. 2. William Evans. 3. David Rowland. 4. Owen Jones. 5. Owen Solomon. 5. Evan Davies. 6. John Pritchard. 7. Richard Griffith. 8. John Ellis. 9. John Price. 10. John Williams (1). 11. John Williams (2). 12. John Williams (3). 13. William Griffith. 14. Owen Owens. 15. Richard Jones. 16. John Owen. 17. Edward Pritchard. 18. Richard Davies. 19. William Jones. 20. John Thomas. 21. Thomas Williams. 22. John Jones. 23. Rowland Morris. 24. William Owen (1). 25. William Owen (2). 26. Griffith Pritchard. 27. Thomas Griffith. 28. Griffith Evans. 29. Ellis Price. 30. Hugh Owen. 31. William Jones (2). 32. William Dafydd. 33. Dafydd Rolant. 34. Thomas Morys. 35. Robert Jones. 36. Harri William. 37. William Jones (3). 38. Mary Thomas. 39. Anne Pritchard. 40. Anne Jones. 41. Catherine Jones. 42. Doly Jones. 43. Catherine Pritchard. 44. Margaret Pritchard. 45. Margaret Thomas. 46. Elizabeth Griffith. 47. Margaret Jones. 48. Ellen Williams. 49. Catherine Williams. 49. Elizabeth Pritchard. 50. Mary Griffith. 50. Margaret Ffowc. 51. Ellin Jones. 52. Jane Williams. 53. Ellinor Thomas. 54. Ellin Roberts. 55. Catherine Ellis. 56. Elizabeth Thomas. 57. Anne Hughes. 58. Mary Thomas. 59. Margaret Humphreys. 60. Ellinor Davies (c). 61. Ellinor Davies. 61. Anna Thomas. 62. Jane Evans. 63. Ellin Humphrey. 64. Jinie Owen. 65. Beci Jones.

Gwnawd Thomas Griffith, John Owen a William Evans Cilfechydd yn flaenoriaid yn 1828. Ymadawodd Dafydd Rowland