Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efe farw, wedi bod yn aelod dros drigain mlynedd, ac yn ddirwestwr ers cychwyniad y Gymdeithas. Llafuriodd i sefydlu canghennau gyda'r ysgol Sul. Dywed Eos Beuno (Bontnewydd), mai efe a gychwynnodd yr ysgol yn y Wredog isaf, yn ymyl Glanrafon fawr, ac yn y Betws a Cherryg y rhyd wedi hynny. Elai i'r Wredog yn y bore, i'r Betws yn y pnawn am awr, a Cherryg y rhyd am awr. Dweyd ei feddwl yn ddidderbynwyneb. Yn flaenor ers pan ydoedd Dafydd Thomas yn ieuanc, a chyfrifid ef ganddo yn un o'r darllenwyr Cymraeg goreu a glywodd. Dywed Eos Beuno fod Rumsey Williams y cyfreithiwr a'r heliwr cadarn, yn cymell Sion Prisiart ar un tro i gymeryd ci bach iddo ar y Sul i fferm ger Cerryg y rhyd. Ond er yr elai Sion Prisiart y ffordd honno ar y Sul, ni fynnai gymeryd. y ci bach gydag ef. Arferai weithio fel teiliwr i Rumsey Williams, a rhoes Rumsey y dydd Llun iddo i fyned, gan na fynnai gymeryd y ci ar y Sul. Ar ei wely angeu, fe ddywedir y gwaeddai Rumsey am Sion Prisiart. Elai Mari Williams yr Allt yn eneth fach at Sion Prisiart i ddysgu adnodau. Yn ieuanc, fe'i treisgipiwyd ef fel milwr i Dover, a bu yno am rai blynyddoedd. Yno y dysgodd ddarllen Saesneg. Elai, yn ol trefniant y Cyfarfod Misol, gyda phregethwyr dieithr, o amgylch y Waen, ar eu taith drwy'r wlad. Ni arferodd erioed â gwydrau, a darllenai hebddynt wrth ddechre oedfa yng nghapel Bontnewydd yn 80 oed. Efe oedd taid y Parch. David Jones (Hyfrydle a Rhuddlan), Ioan Glan Menai, Eos Brad- wen, cystal ag Eos Beuno.

Dewis Morgan Jones ac Owen Morgan yn flaenoriaid ar yr un noswaith yn 1848.

Perthyn i blaid y diwygwyr, ebe Pierce Williams, yr oedd ei dad, William Owen Tan y marion, a fu farw Medi 12, 1851, yn 54 oed. Gweithiwr distaw. Gofalus rhag colli naws crefydd yn ei ymdrechion dros ddiwygiadau mewn pethau allanol.

Richard Owen Bryneithin oedd gynghorwr difyr a gafaelgar (Drysorfa, 1852, t. 205). Gwr dawnus. Bu am ddau fis yn y Deheudir gyda Moses Jones Dinas, yn dechreu'r moddion iddo. Un o'r blaenoriaid cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, a disgrifir ef ganddo fel dyn o dalent, yn ddoniol a gafaelgar mewn gweddi, yn gallu siarad yn dda ac i bwrpas ar unrhyw bwnc, ac yn holwr plant dihafal. Medrai wneud ei hunan yn blentyn gyda phlant.