Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Holi o'r Hyfforddwr heb fod y llyfr yn ei law, ac os gwelai rhywun yn edrych i'r llyfr yn llechwraidd, gwnelai gilwg arno. Safai yn uchel ar un tymor yng Nghyfarfod Misol y sir, a bu yn un o drefnwyr cyhoeddiadau pregethwyr drwy'r sir. Sefyll yn y canol rhwng y ddwy blaid, yr hen a'r newydd, ebe Pierce Williams, ac yn wr call ac yn fab diddanwch. Mwy o allu naturiol na chyrhaeddiadau. Bu farw y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1851, yn 61 oed.

Sel Sion Prys oedd fwy na'i wybodaeth, ebe Dafydd Thomas; ond cyfrifid ef ganddo yn wr bucheddol. Efe ydoedd y pen blaenor ar un cyfnod. Aeth dan ddrwg-dybiaeth yn rhyw achos, a diarddelwyd ef, heb sail yn y byd ebe Pierce Williams. Ymunodd â'r Anibynwyr am ysbaid go ferr, ac yna dychwelodd yn ol. Ni chodwyd ef i'r swydd drachefn. Er hynny, ni phallodd mewn cysondeb. Argyhoeddodd yr eglwys ei fod yn Israeliad yn wir. Dywedodd rai misoedd cyn marw y gwyddai efe hyd sicrwydd ers deugain mlynedd na ddemnid mono. Bu farw Ionawr 14, 1856, yn 73 oed.

Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 155. Gosodid 383 o'r eisteddleoedd allan o 400. Cyfartaledd pris eisteddle, 9c. Swm. y derbyniadau am y seti, £50 16s. Y casgl at y weinidogaeth, £37 15s. Swm y ddyled yn 1853, £150; yn 1854, £220. Yr ychwanegiad hwn yn dod drwy i'r eglwys ymgymeryd â helpu adeiladu'r ysgoldy yn ymyl y capel. Rhif yr eglwys yn 1858, 179. Gosodid 336 allan o'r 400 eisteddle. Pris eisteddle, 7g. Swm y derbyniadau am seti, £39 3s. Casgl y weinidogaeth, £56. Y ddyled yn 1857, £90; yn 1858, £80.

Yna fe ddaeth y diwygiad, gan weddnewid popeth am gryn ysbaid. Fe'i teimlid yma yn ei rym. Tua dechreu'r flwyddyn fe fyddai Morgan Jones yn derbyn llythyrau o Lechryd, sir Aberteifi, yn rhoi hanes y diwygiad. Darllenid hwy yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Nos Sul, Mawrth 27, cyhoeddodd un o'r blaenoriaid gyfarfod gweddi ar y nos Lun dilynol i ofyn i'r Arglwydd am ddyfod i achub i'r Waen. Y capel bron yn llawn. Myned adref yn siomedig. Erbyn y seiat ddilynol, wele eneth ieuanc o deulu anghrefyddol yn y lle. Edrychid arni braidd yn sarrug. Hi a ddywedai mai ofn marw yn anuwiol oedd arni. Ers pa bryd?