Er cyfarfod gweddi nos Lun. "Ysgub y blaenffrwyth ydi hi," ebe un brawd. Y nos Sul dilynol, hen wrthgiliwr yn dychwelyd. Rywbryd oddeutu 'r adeg yma, yng nghof un, y torrodd y diwygiad allan gyda "dyn bach o bregethwr o sir Fon, yn mynd wrth ei ffon i'r pulpud." Dal at y cyfarfod gweddi, a rhoi un arall ar y nos Iau. Rhywun neu gilydd yn barhaus yn dod o'r newydd. Yr oedd yma gyfarfod pregethu Sul a Llun y Sulgwyn, pryd y pregethai Thomas Hughes Machynlleth, Griffith Evans Caergeiliog, Hugh Jones ieu. Llanerchymedd a Thomas Ellis Pennant. Arhosodd tri i'r seiat nos Sul, a nos Lun naw. Wrth weled rhai yn aros ar ol nos Sul, torrodd William Davies Cae ystil allan, "O diolch am dynnu'r cyrtain!" Owen Griffith (Eryr Eryri) ydoedd un ohonynt. Pan ddaeth y naw at ei gilydd i'r un man fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr, anolrheinadwy ar yr holl eglwys. Mewn ymddiddan ar hanner canmlwyddiant y diwygiad yn seiat y Waen, fe adroddai Jane Williams Llwyn bedw am ddau fachgen ieuainc, y dywedai hi eu bod yng nghyfarfod nos Sadwrn y Sulgwyn yn y Waen, y cyfarfod pregethu, y mae'n debyg—sef John [Jones] Tyddyn ac Wmphra William. Dywedai fod y ddau yn Salem y bore Sul â'u gwynebau yn tywynnu fel wynebau angylion. "Y mae y ddau," ebe hi, "erbyn hyn yn y Nefoedd." Yng nghyfarfod gweddi nos Fawrth arhosodd 12, a nos Sadwrn, 14. Y nos Sul, 16; nos Lun, 10; nos Fercher, ar ol pregeth gan Thomas Phillips, 19. Sef 84 mewn deng niwrnod. Y Sul dilynol, drachefn, 11, hen wrandawyr gan mwyaf. Erbyn Gorffennaf 4, 123 o ddychweledigion. Cyfarfodydd gweddi bellach yn y tai, yn y chwarelau, ar lan y Wyrfai, yn y cymoedd ac wrth ochrau'r cloddiau. Yr ysgol wedi cynyddu, ac erbyn hyn yn 450 o rif. Erbyn Tachwedd 19, 137 wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau. Y nifer yma gyda'i gilydd yn derbyn y Cymun ar nos Fercher, Tachwedd 16, John Jones Llanllechid yn gweinyddu. Dywed Morgan Jones fod y cynnydd mewn rhif erbyn Tachwedd 19 agos yn wyth ugain. Y mae Morgan Jones yn cymeryd ei ddameg drachefn yn y Drysorfa am Gorffennaf 1861, a dywed fod y dychweledigion oll yn dal eu ffordd oddigerth un neu ddau. Rywbryd yn ystod y diwygiad bu Dafydd Jones (Caernarvon) yma yn pregethu ar y geiriau, "Mor hawddgar yw dy bebyll di." Yr oedd lliaws fel mewn llesmair o fwynhad wrth ei ddisgrifiadau. Llefodd Robert Closs Garregwen allan, ac yntau heb arddel crefydd, "Dafydd anwyl, taw, cyn fy lladd i!" Mewn cyfarfod i'r dychweledigion ddechreu'r
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/44
Gwedd