fel y barnont oreu." Yr hyn a wnawd yn 1863 ydoedd tynnu to'r capel i lawr, codi'r muriau yn uwch ynghyda'r tô, tynnu y wyneb i lawr, gan estyn peth ar ei hyd, a newid peth ar ffurf y wyneb fel ag i ateb i'r cefn, a gwneud y cwbl yn newydd oddifewn. Y draul dros £1100. Y ddyled yn 1862, £80; yn 1865, £1335; yn 1866, £1288.
Adeiladwyd ysgoldy Penrallt yn 1864. Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen Penrallt. Cedwid yr ysgol cyn hynny yn nhŷ Hugh Jones Penrallt, a chyn hynny yng Ngwredog. Rhoid pregeth yno unwaith yn y mis. Bu cyfeillion o'r Waen yn cynorthwyo ym Mhenrallt o'r dechre, sef John Griffith Penffordd Fangor a William Humphreys, ac wedi hynny, Owen Evans a John Ellis. Bu farw Owen Jones y Siop yn 1864. Efe ydoedd ysgrifen- nydd a thrysorydd yr eglwys. Bu'n arolygwr yr ysgol am flynydd- oedd, a rhagorai yn ei swydd. Yr ydoedd yn ysgolor, fel y cyfrifid y pryd hwnnw, ac wedi bod yn cadw ysgol ar un adeg yn Nhŷ ucha'r ffordd. Yn wr o ymddiried.
Richard Humphreys (Bontnewydd wedi hynny) oedd y cyntaf a godwyd i bregethu o fewn yr eglwys yn ystod y ganrif, sef ar Ionawr 11, 1865.
Byddid yn mwynhau gwasanaeth Dafydd Jones yn y seiadau ar nos Sadyrnau amryw weithiau mewn blwyddyn am flynyddau pan oedd efe yn trigiannu yng Nghaernarvon. Yn ddiweddarach bu Dafydd Morris yn dod yma yn gyson o Gaeathro am flynyddau.
Medi 25, 1867, rhowd galwad i Ddaniel Evans Ffosyffin. Dechreuodd ar ei waith yma yn nechre 1868. Wedi bod yma am dros bedair blynedd fe ymadawodd i Ffosyffin yn Nhachwedd 1872. Dyma fel y dywed Mr. R. O. Jones am dano: "Yr oedd yn hynod o boblogaidd a chymeradwy tra y bu yma. Yr oedd yn ddyn hynod o garedig a diymhongar, yn gyfaill cywir, a'i holl ymddygiadau yn eithriadol foneddigaidd tuag at bawb yn ddiwahaniaeth. Llwyddai i gael popeth a ofynnai, nid yn unig gan yr aelodau, ond gan y gwrandawyr hefyd. Gwnaeth un peth ar fore Sul gyda'r gwrandawyr a adawodd argraff dda arnynt tra fu yma. Gofynnodd i bawb o'r gwrandawyr heb fod yn aelodau