aros ar ol. Arhosodd pawb, a chafodd ymddiddan â hwy. A thystiai amryw ohonynt fod yno le rhyfedd o ddifrifol, ac ni ddarfu iddynt yn fuan anghofio'r ymddiddan. Nodweddid ei bregethau gan ddifrifwch. Er y byddai efe mewn cymdeithas yn llawn humour ac arabedd, eto ni chlywid byth ddim yn tueddu at hynny yn ei bregethau. Yr oedd ei sylwadau oddiwrth ei destyn yn naturiol a threiddgar, ac yn meddu rhyw newydd-deb parhaus. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn gryfion, a chan ei fod wedi disgyblu ei feddwl yn dda, yr oedd yn gallu cyfansoddi pregethau yn lled rwydd, a'r rhai hynny y fath ag oedd yn goleuo y deall ac yn cynhyrfu y gydwybod." Ystyrrid ef gan y gwrandawyr yn bregethwr awgrymiadol, a byddai adrodd ar ei sylwadau, megys y sylw hwnnw o'i eiddo, fod dwy adnod a ymddanghosai yn gwrthddweyd ei gilydd, wrth eu cymeryd ar wahan, eto wrth eu dwyn gyferbyn â'i gilydd, ac i wrthdarawiad â'i gilydd, yn taro tân y naill o'r llall, a roddai oleu newydd ar y ddwy. Fe gafodd Mr. J. W. Thomas lawer o'i gyfeillach pan yma. I'w fryd ef y pryd hwnnw, nid oedd odid gangen o wybodaeth gyffredinol namyn cerddoriaeth, nad oedd gan y gweinidog gryn swrn ohoni yn feddiant iddo'i hun. Danghosai gydnabyddiaeth â barddoniaeth Saesneg a Chymraeg. Adroddai allan o'i gof ddarnau go hirion o waith Shakspere, Burns, Byron, Wordsworth ac eraill. Yn grâff ei sylw ar bregethwyr. John Jones Talsarn ydoedd ei eilun. Esgyrnedd ei bregeth a grym ei bersonoliaeth yn y pulpud yn ei ddangos tuhwnt i eraill, hyd yn oed pan na chaffai yr awel gydag ef. Yn ddihafal am amrywio ei lais yn ol nodwedd ei bwnc. Owen Thomas oedd pregethwr yr oes ddilynol yn ei olwg. Edmygai ei gyfansoddiad glân. Yn gallu gosod ei bwnc mewn trefn i'w amcan ei hun yn well na neb. Mathews yn medru pwysleisio fel ag i dynnu sylw pawb. Y Dr. John Hughes yr unig un a glywodd a gaffai hwyl wrth ddweyd pennau ei bregeth, ac yn hynny yn rhagori ar bawb a glywodd efe. Heblaw meddu ar wybodaeth, yr oedd y gweinidog, ebe Mr. Thomas, yn dangos awydd i gyfrannu gwybodaeth i eraill. Ac yr oedd ganddo ddawn i dynnu eraill allan yn y seiat, ac i wneud defnydd o bob cyffyrddiad. Yr oedd William Parry y Parc wedi bod yn meddwl gryn dipyn am y nefoedd. "Ymhle y mae'r nefoedd, William Parry ?" "Yn rhyw le i fyny yna " ebe William Parry. "Ond fe ddywed y bobl sy'n wrthdroed i ni ei bod i fyny, fel chwithau." Wedi peth egluro, William Parry yn dod i ddeall. "Wel," ebe William Parry, "nid ydi hi ddim yn y ddaear, beth
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/48
Gwedd