Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi ddymunwn eich rhybuddio o'ch perygl o fyw yng nghyfeddach y dafarn, a thrin llestri y cysegr yr un pryd. Am wn i, na chawsai y brenin balch Belsasar lonydd i gynnal y wledd fawr honno a wnaeth ym Mabilon i fil o dywysogion, yr un modd a chyda rhyw wleddoedd eraill a wnaeth, oni bae iddo alw am lestri teml Dduw iddi; ond gan iddo wneud hynny, fe enynnodd digofaint Duw tuag ato, a'r noson honno fe laddwyd Belsasar. Gwyliwch chwithau, gyfeillion, wrth gymysgu crechwen y dafarn â phethau cysegredig y Tŷ." Tarawyd y cantorion â mudandod, fel na allent yngenyd dim, a chafodd y ddau frawd eraill eu cyfle hwythau i draethu eu meddwl yn llawn a diwrthwynebiad. Yr oedd rhyw gyffyrddiad of wreiddioldeb yn fynych i'w deimlo yn ei ymadroddion cwta. Ac yr oedd ganddo'i ddull nodweddiadol ei hun o ddweyd ei bethau. Ebe fe wrth Catrin Ty'n drwfwl, yr hon fyddai weithiau i mewn yn y seiat ac weithiau allan: "Mae nhw'n deudud am y crocodeil ei fod yn gallu byw ar y tir neu yn y dwr, yr un a fynno. A chreadur i warchod rhagddo ydi'r crocodeil. Mae hi'n bryd i tithau, Catrin, benderfynu lle yr wyti yn meddwl aros." Dywed Mrs. Jane Williams Pant defaid y byddai ganddo nid yn anfynych ddywediadau cryno, ar ddull diarhebion, a chyfleus i'w dodi yn y cof. Dyna ddywediad o'r math hwnnw fyddai ganddo—"Ein traed ni yw Beibl y byd." Edrydd Mr. Owen Jones (yr Eryri) sylw neu ddau o'i eiddo ag sy'n ddigon arnynt eu hunain i ddangos y perthynai iddo graffter sylw ac awch meddwl. Wrth gynghori pobl ieuainc i ddilyn cwmni da, eglurai pan fyddai clafr ar yr hespwrn, os dilyn ynghynffon y praidd a wnelai, y byddai yn debyg o farw, ond os y gwelid ef ynghanol y defaid gwlanog, y deuai yr hespwrn yn ei flaen, ac y gwellhae o'r clafr. Cynghori pobl ieuainc i ddod i'r tresi dro arall. Ebol yn myned o flaen y mail—coach, yn cadw ar y ffordd am filltir neu ragor, gyda'r mail yn ei yrru ymlaen. Ond yn y man, pan ddeuid i groesffordd, yr ebol yn troi oddiar y ffordd. Heb ei strapio yn y tresi yr ydoedd—dyna'r achos. Wedi ei strapio yn y tresi, nid allai lai na chadw ar y ffordd. Edrydd Pierce Williams enghraifft ohono yn dyfynnu sylwadau bachog yr hen bregethwyr, yn yr hyn y dywed efe y rhagorai. Cymell prydlondeb yr ydoedd ar y pryd. "Yr oedd William Jones Nantglyn yn dweyd mai ar ol yn y nefoedd y bydd y rhai fydd ar ol yn dod i foddion gras. Dwedai y bydd y duwiolion fu farw ar eu holau, wrth fethu eu gweled yn y nefoedd, yn troi i ofyn i ryw angel, 'Ymhle y mae hwn a hwn?' 'Welais i mono