Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fo yma,' meddai'r angel. Y mae wedi cychwyn ers dwy flynedd o'm blaen i.' 'Chyrhaeddodd o ddim yma eto," meddai'r angel. 'Wel, wel, 'dydio'n rhyfedd yn y byd, o ran hynny, oblegid ar ol y gwelais io erioed yn dod i foddion gras!" Fe fyddai mewn gwell hwyl weithiau na'i gilydd. A byddai ar brydiau yn o bruddglwyfus, ac anhawdd fyddai cael ganddo siarad pan ddigwyddai felly iddo. Tebyg ddarfod i'r pruddglwyfni hwnnw ei atal rhag bod mor flaenllaw yn gyhoeddus ag a fuasai fel arall. Fe ymwelai John Jones Talsarn âg ef ar brydiau, er mwyn ei galonogi. Tynnai John Jones ef allan mewn ymddiddanion ar bynciau athrawiaethol, nes yr adseiniai'r tŷ weithiau gan rym lleisiau y ddau. Elai yntau i ddanfon John Jones adref heibio chwarel Cors y bryniau, gan ddiweddu gyda chael ei hunan yn nhŷ John Jones, a chydgysgai âg ef y noswaith honno. Gallai ddweyd gair yn ei bryd wrth enaid diffygiol. Edrydd Pierce Williams ei air i Beti Prisiart Pen y gamfa. Hen wreigan o gymeriad nodedig oedd Beti Prisiart. Yr oedd Dafydd Morris yn ymddiddan â hi. Eithr yr oedd yr hen wraig y noswaith honno yn cwyno yn dost oherwydd ymosodiadau y diafol, ac yr oedd yn isel iawn o'r achos. Anogai'r gweinidog, yn y man, William Jones i ddweyd gair wrthi. Cododd yntau ar ei draed. "Ai cwyno 'rwyti, Beti bach?" "Ie'n wir, William Jones, isel iawn ydw'i, yn cael fy nghuro gan y diafol nes wyf bron wedi mynd i lawr." "Wel, bobl," ebe William Jones, "dyma un llestr â digon o eiddo ynddi i fod yn werth gan y diafol ei dilyn am daith hir, a gollwng ei ergydion ati. Pan oedd rhyfel rhwng Ffrainc a'r wlad hon yn amser Buonaparte, fe fyddai llongau rhyfel Ffrainc yn gwylio am longau marsiandwyr y wlad hon, ac yn eu cymeryd yn anrhaith rhyfel pan allent. Fe fyddai cychod cerryg calch yn cael llonydd ganddynt i fyned a dyfod fel y mynnent; nid oeddynt yn eu hystyried yn werth powdwr a bwlet: ond am longau mawr, llawn o farsandïaeth werthfawr, os na lwyddent i'w cymeryd yn anrhaith, byddent yn sicr o'u dilyn hyd nes y cyrhaeddent y porthladd dymunol, gan gymeryd pob cyfle i ymosod arnynt. Wyddochi beth, bobol, hen lestr yn llawn o farsiandiaeth y nef yw Beti Prisiart, ac nid yw'n rhyfedd yn y byd fod y diafol yn ymosod arni, oblegid y mae o mewn rhyfel â'r wlad honno. Gwyliwch, bobol, rhag bod yn rhyw gychod cerryg calch gyda chrefydd, na bydd yn wiw gan y diafol ymosod arnoch, a gwastraffu powdwr a bwlet arnoch.' Gallai gyflwyno sylw'r tlawd gerbron y gynulleidfa gyda thynerwch effeithiol. Edrydd