Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meistri a gweithwyr. Ar ol Morgan Jones, efe ydoedd pen blaenor yr eglwys. Athraw rhagorol gyda dosbarth pnawn Sul a noson waith. Disgrifir ef gan un o'i hen ddisgyblion fel athraw call, treiddgar, â ffordd ganddo o'i eiddo'i hun o holi ar yr atebion a gawsai, gan aros ar yr un adnod weithiau am Suliau bwygilydd. Medru deffro meddylgarwch yn eraill. Cerddor gwych. Bu yn arweinydd y cor ac yn arweinydd y canu cynulleidfaol am dymor maith. Meddai ar gryn wybodaeth gyffredinol. Efrydodd ddaeareg am flynyddoedd. Pwyll a challineb yn dod i'r golwg ynddo mewn amgylchiadau dyrus yn yr eglwys. O ysbryd nwyfus, ac yn fyw i'r digrifol. Mawr fwynhae gyfeillach a sgwrs Fy hanes fy hun. Fe gymerth lawer o drafferth i grynhoi ynghyd yr hanes a geir yn ei ysgriflyfr, ac y mae'r hanes hwnnw, fel y gwelwyd, yn ffrwyth sylwadaeth a chraffter. Y mae'r eglwys ei hun, yn neilltuol, yn ddyledus iddo am ei drafferth honno. Dengys yr ysgriflyfr ddawn i ysgrifennu yn rhwydd a threfnus a chywir. Cymerth drafferth i gael amseriadau cywir, pethau na thrafferthir i'w cael o gwbl gan liaws, heb sôn am eu cael yn gywir. A chymerth drafferth i gyfleu'r pethau. mewn modd llawn a chywir, hynny hefyd yn beth na cheir yn rhy aml. Y mae syniad uchel am dano yn aros o hyd yn yr ardal, fel gwr o allu a medr a defnyddioldeb. Bydd Mr. Francis Jones yn ei gymharu â Morgan Jones, gan roi 'r ragoriaeth i Pierce Williams o ran eangder a nerth meddwl, ac eangder cylch ei ddarllen; ar ragoriaeth fel siaradwr i Morgan Jones. Yn yr hwyr wedi'r cynhebrwng, traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan Dr. Hughes, oddiar Datguddiad xiv. 13: "Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." (Goleuad, 1891, Rhagfyr 3, t. 9).

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid, William Griffith, T. E. Jones a R. Owen. Mai 11 y dechreuodd R. R. Jones bregethu. Yn 1899 ymadawodd i Lwyneinion ger y Bala.

Ebrill 2, 1893, rhowd galwad i Mr. Lewis Williams. Daeth yma o eglwys Siloh, Aberystwyth. Ebrill 12, dechreuodd W. Vaughan Jones bregethu; Mehefin 27, 1894, dechreuodd Thomas J. Jones; Mehefin 29, 1899, dechreuodd T. Llewelyn Thomas.