Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Profwyd gradd o adfywiad yn ystod 1894. Dechreuwyd teimlo rhyw ysbryd newydd yng nghyfarfod gweddi'r bobl ieuainc. Ymhen amser cafwyd wythnos o gyfarfodydd gweddi, ac yna wythnos o bregethau. Cafwyd cyfarfod eglwysig i groesawu 20 o ddychweledigion yn nechre Tachwedd. (Goleuad, 1894, Tach. 7, t. 6).

Yn 1897 talwyd y gweddill o'r ddyled ar yr adeiladau, sef £172. Yn 1898 chwalwyd i lawr yr hen ysgoldy a'r tŷ capel, a gwnawd rhai newydd. Traul, dros £1400.

Arferid cynnal yr ysgol Sul yn y capel hyd 1862, pryd y symudwyd y plant i'r hen ysgoldy, hyd ar ol helaethu'r capel yn 1863. Yna cadwyd ysgol y plant ar y llawr a'r rhai mewn oedran yn y llofft. Yn 1877 symudwyd y plant drachefn i'r hen ysgoldy, ac ar wahan y maent er hynny. Adeiladu ysgoldy Penrallt, 1864, a'r Groeslon, 1886. Cychwyn cangen-ysgol yn yr hen ysgoldy genhedlaethol, 1880 (Croesywaen wedi hynny); ym mhlas Glanrafon 1883, yr hon gynhaliwyd am rai blynyddoedd. Bu ysgol yn y Wredog isaf yn ymyl yma am ystod o amser yn lled gynnar yn y ganrif o'r blaen. Owen Jones y siop oedd arolygwr yr ysgol yn amser Richard Jones. Bywiog, gweithgar ac effro ydoedd ef. Symudwyd Richard Jones o ddosbarth y plant i ddosbarth Dafydd Thomas y Tai isaf, sef dosbarth o fechgyn o 12 i 18 oed. Y Dafydd Thomas yma ydoedd ysgrifennydd yr ysgriflyfr y dyfynnwyd gynifer o weithiau ohono. Cafodd Richard ieuanc hyfforddiant trwyadl ac effeithiol mewn hanesiaeth ysgrythyrol yn y dosbarth hwnnw. Cau y Beiblau y deng munud olaf, a holi drachefn ar yr hyn yr aethpwyd drosto o'r blaen, cynllun a gymhellir gan Richard Jones i sylw eraill. Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant: "Tachwedd 8, 1885. Waenfawr. Nifer yn bresennol, 130. Cerir y gweithrediadau ymlaen mewn tawelwch, oblegid fod ysgol y plant dan bedair arddeg oed ar wahan. Y dosbarth rhagoraf mewn darllenyddiaeth yn yr holl gylch ydoedd dosbarth o ferched ieuainc a welsom yma. Cyffredin a difywyd oedd yr atebion yn rhai o'r dosbarthiadau canol. Mewn un dosbarth o fechgyn ni thelid nemor sylw i orffwysfan, pwyslais, oslef na theimlad. Ymunodd yr ysgol mewn siant, yn cael eu cynorthwyo gan offeryn, mewn modd swynol iawn. Cymerir gryn drafferth yn yr ysgol hon gyda chwestiynau gwobrwyol y Cyfarfod Misol a'r