BETWS GARMON (SALEM)[1]
EIR heibio'r Betws ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Feddgelert, drwy'r bwlch i bentref Salem, a elwir felly oddiwrth y capel. Yr ydys yma yn ymyl Llyn Cwellyn. Y mae'r pentref chwe milltir o Gaernarvon, ac y mae tair milltir ymlaen i Rhyd-ddu. "Yr oeddwn yn awr yn tynnu tuag ardal fynyddig yr Eryri," ebe George Borrow. "Yr oedd bryn ardderchog a elwid Moel Eilio o'm blaen tua'r gogledd, a mynydd enfawr a elwid Pen Drws Coed [Mynyddfawr] yn gorwedd gyferbyn ag ef i'r de, yn union fel eliffant ar ei orwedd, gyda'i ben yn is na thopyn ei gefn. Ymhen encyd aethum i ddyffryn heulog, tlws odiaeth, ac yn y man daethum i bont ar draws ffrwd hyfryd [y Wyrfai] yn rhedeg yng nghyfeiriad y de. Fel y safwn ar y bont honno prin na ffansiwn fy hun ym mharadwys, gan mor hardd neu mor fawreddus yr edrychai popeth -gwyrddion weunydd heulog orweddai ym mhobman o'm deutu, yn cael torri ar eu traws gan y ffrwd, ag yr oedd ei dyfroedd yn rhedeg gan dincian chwerthin dros wely o raian. Eilio ardderchog i'r gogledd, anferth Ben Drws Coed i'r de, mynydd tal ymhell tuhwnt iddynt i'r dwyrain. 'Ni bum erioed mewn ysmotyn mor hawddgar!' mi lefwn wrthyf fy hun mewn perlewyg hollol. 'O mor falch a fuaswn i wybod enw'r bont y cefais y nef wedi ei hagoryd i mi, megys y dywedai fy hen gyfeillion yr Ysbaenwyr, wrth sefyll arni [Pont y Betws]. . . Gan gerdded yn gyflym tua'r de daethum yn fuan at derfyn y dyffryn. Terfyna'r dyffryn mewn bwlch isel rhwng Moel Eilio-ag sydd gyda llaw yn rhan o esgair y Wyddfa-a Phen Drws Coed. Yr olaf, yr eliffant yn ei orwedd gyda'i ben wedi ei droi i'r gogledd-ddwyrain a ymddengys fel ped ewyllysiai fario'r bwlch gyda'i dduryn. Wrth y duryn y meddyliaf fath o gefnen riciog yn disgyn i lawr at y ffordd. Aethum drwy'r bwlch, gan fyned heibio i raiedryn bychan, a red gyda llawer o dwrf i lawr ochr serth y Foel Eilio. . . Rhed yr afon gan drochionni heibio blaen eithaf swch yr eliffant. Gan ddilyn cwrs yr afon daethum allan gyda hi o'r diwedd o'r bwlch i ddyffryn amgylchynedig â mynyddoedd anferth. Yn estynedig ar hyd-ddo
- ↑ Ysgrif Mr. S. R. Williams. Llyfr cyfrifon yr eglwys o'r cychwyn, yn cynnwys atgofion John Davies yr Ystrad hyd 1841. Nodiad y Parch. J. Glyn Davies Rhyl ar ei dad, John Davies yr Ysirad. Ymddiddan â Mr. Griffith Williams.